Ma’ COFI 19 yma o’r diwadd i’ch cysuro a’ch cyffroi!
Dyma gasgliad o ganeuon wedi’w gwneud yn ystod y lockdown gan amryw o fandia’ ag artistiaid gogleddol wedi ei drefnu gan Pasta Hull.
Mae’r albwm yn cynnwys 22 o ganeuon, gan 14 band o’r ardal.
Mae COFI 19 allan yn rhad ac am ddim ar ‘bandcamp’ heddiw, ac allan ar ‘Spotify’ a ballu yn fuan.
Gwrandewch ar yr album newydd ar y linc yma
COFI 19 allan yn rhad ag am ddim ar bandcamp fory. Fydd o ar Spotify aba yn fuan. 22 tracks, 14 artists, 6-7 collab. Diolch i pawb sy' di cyfrannu. #kimhonbarryjohn #hosepipeban #dennisberkgamp #meetthefockers #coronaceroma https://t.co/rUUZ98uOTB
— Pasta Hull (@achwmet) July 23, 2020
Dyma gerdd gan Brochwel Ysgithrog o Pasta Hull i ehangu:
O Pys Melyn a Meilyr a Bleddyn, i Phil Bran a’r Twmffat a’r Tacla.
Jac Da Trippa a’r 3 Hwr Doetha’, gyda’r Crinc a’r Papur Wal poetha’.
O bapura Rhys Trimble, i fynyddoedd Cefn Du,
Bydd rhyddhad swyddogol y Hosepipe Ban yn gry’.
So wotchwch achan am yr album hon
Sy’n cynnwys yr uchod, a Kim Hon; Barry John.