Her #CitCofis Clwb Hoci Caernarfon

Be mae chwaraewyr hoci Caernarfon yn gwneud efo’u penwythnosau sbar?!

Clwb Hoci Merched Caernarfon
gan Clwb Hoci Merched Caernarfon

Gyda’r tymor chwarae drosodd yn gynnar mae aelodau Clwb Hoci Caernarfon yn awyddus i gael gwisgo eu cit newydd. Felly chwaraewyr iau a hŷn, aelodau, cefnogwyr a pawb yn ngwlad y Cofis beth am rannu eich sgiliau, selfies yyb yn hunan ynysu yn eich cit. Cofiwch ddefnyddio #CitCofis

Bydd syniadau am sgiliau gallwch chi ymarfer yn eich gerddi yn cael eu rhannu ar dudalen Facebook y clwb.

Dyma rai o’r cyfraniadau hyd yma!