Mae Clwb Pêl-droed y Felinheli yn “edrych ymlaen” at chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru, meddai Aelod o Bwyllgor y Clwb a chyn chwaraewr, Dylan Owen.
Elwodd y clwb ar benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i orffen y tymor diwethaf ar sail pwynt pob gêm.
Daeth y clwb i frig Cynghrair Undebol y Gogledd, gan ennill yr hawl i chwarae yn nhrydedd haen pyramid pêl-droed Cymru.
“Mae pawb ohonom ni yma’n edrych ymlaen at gael dechrau’r tymor newydd yn y drydedd haen,” meddai Dylan Owen.
“Cafodd yr hogiau eu gweld ei gilydd yn iawn am y tro cyntaf ers ennill y gynghrair pan ddechreuon ni hyfforddi eto, ac roedd hynna’n grêt.
Cyfrifoldebau’n dod gyda’r naid i’r drydedd haen
“Gan ein bod ni wedi ennill dyrchafiad, roedd yn rhaid i ni wneud gwelliannau i’r cae, adeiladu stand a chael dug out ar bob ochr i’r cae,” eglura Dylan Owen.
“Buon ni’n lwcus i gael grant gan yr FAW i wneud y gwaith yna, ond rhoddodd y coronafeirws stop ar y cwbl.
“Felly roedden ni mewn limbo am dipyn.”
“Barod i fynd”
Mae’r Felinheli, clwb sy’n ymfalchïo ar ddod a chwaraewyr ifanc i mewn i’r garfan, yn croesawu pedwar chwaraewr newydd y tymor hwn.
“Mae gennym ni hogiau ifanc, pedwar chwaraewr newydd yn dod i mewn felly bydd yna tua 20-25 yn y garfan eleni,” meddai Dylan Owen.
“Mae’r hogiau yn barod i fynd.”