Er fod Gŵyl Fwyd Caernarfon wedi gorfod cael ei chanslo eleni, mae’r gwirfoddolwyr sydd yn trefnu’r ŵyl wedi bod yn brysur dros y misoedd diwethaf yn rhannu ryseitiau cogyddion ac yn cefnogi cynllun ‘Porthi Pawb’ yng Nghaernarfon.
Ond y penwythnos yma (24 – 26 Gorffennaf 2020), nid bwyd fydd yn cael sylw – ond diodydd. Ac i fod yn fwy penodol, jin. Mi fydd yr ŵyl yn gweithio gyda Lowri a Ffion o gwmni ‘Jinsan’ i gynnal cystadleuaeth arbennig i greu coctel hafaidd, gyda jin fel y prif gynhwysyn.
Y cyfan sydd angen ei wneud i gystadlu ydy:
1. Creu coctel sy’n cynnwys jin plaen sych a hyd at 5 cynnwys arall
2. Postio fideo neu lun o’r gin ar Twitter / Instagram / Facebook efo rysáit ac enw’r coctel
3. Tagio @gwylfwydcaernarfon #cocteljinsan
4. Oriau agor – 7pm 24/7/20 tan 7pm 26/7/20
Bydd y coctels yn cael eu beirniadu gan Lowri a Ffion, a’r enillydd yn cael hamper gin gwerth £100 wedi ei gefnogi gan gwmni jin ‘Afallon Mon’, ‘Treganna Gin’ a ‘Dinorwig Distillery’.
Yn ôl llefarydd ar ran yr ŵyl, “Mi yda ni yn ffodus iawn o gefnogaeth y cwmnïau jin – mi fydd hi’n hamper werth ei chael. Ac mae Lowri a Ffion yn giamstars ar y gin, felly gobeithio y bydd gennym chwip o goctel da i rannu efo chi ar ddiwedd y penwythnos.
“Mae na hefyd esgus i brofi ac arbrofi yn ystod yr wythnos, fel eich bod wedi perffeithio y rysait at y penwythnos. Felly cerwch amdani a mwynhewch!”.