Darparu Dillad i Blant Dre

Mae criw gweithgar Porthi Pawb a Porthi Plantos wedi camu i’r adwy unwaith yn rhagor i ddarparu dillad ar gyfer plant Caernarfon.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae criw Porthi Pawb yng Nghaernarfon wedi bod yn paratoi ac yn dosbarthu prydau poeth i henoed a phobl fregus y dref yn ystod y pandemig. O dan yr enw ‘Porthi Plantos’ dechreuodd y criw ddarparu prydau ar gyfer plant yn ystod gwyliau’r ysgol hefyd.

Ac mae’r criw wedi camu i’r adwy unwaith yn rhagor, drwy agor banc dillad i blant yn yr Institiwt, Caernarfon.

Dywedodd Dawn Lynne Jones, sy’n gynghorydd tref dros ward Cadnant;

“Wrth fynd o gwmpas efo prydau Porthi Pawb rydym wedi dod ar draws teuluoedd oedd yn gofyn am gymorth ychwanegol.

Felly aeth rhai o gydlynwyr Porthi Pawb ati i holi eu teuluoedd a’u ffrindiau am ddillad sbar, a dyna gychwyn ar daith ‘Porthi Pawb – Dillad..’ 

Mae’r cynllun yn agored i holl deuluoedd Caernarfon.”

Mae’r criw yn honni bod gan y cynllun fanteision amgylcheddol hefyd, a’i fod yn annog pobl y dref i ailgylchu a lleihau gwastraff.

Ychwanegodd y Cyng. Dawn Lynne Jones;

“Mae ’na gasgliad da o ddillad babi a phlant o bob oed ar gael, am ddim yn yr Insitiwt yng Nghaernarfon.

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae angen trefnu amser i’w casglu o flaen llaw.

Cysylltwch drwy inbocs tudalen Porthi Plantos – Dillad.”