Mae John Evans, perchennog Y Black Boy wedi dweud nad oes pwynt i drio agor y dafarn heb allu gwerthu alcohol.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym o 6yh ddydd Gwener, Rhagfyr 4, i leihau ymlediad y coronafeirws unwaith eto cyn cyfnod y Nadolig.
Dywedodd John Evans bod y costau rhedeg yn gorlethu’r manteision o agor heb gwrw.
“Does ‘na ddim point trio agor heb allu gwerthu alcohol”
Prin dwy awr wedi’r cyhoeddiad, dywedodd ei fod am gau’r dafarn yn gyfan gwbl, tan fis Ionawr.
“Ar y funud, dani’n meddwl bo’ ni am gau tan fis Ionawr… neu yn Saesneg until futher notice… achos dydw i ddim yn gweld y Llywodraeth yn newid hyn dros y flwyddyn newydd.
“I ddweud y gwir does ‘na ddim point trio agor heb allu gwerthu alcohol – pub ydyn ni ar ddiwedd y dydd.”
Dywedodd ei bod hi’n rhatach i gau yn gyfan gwbl, nag trio agor o dan y cyfyngiadau newydd.
Wrth drafod goblygiadau hynny i ddyfodol y busnes a swyddi ei staff, dywedodd:
“Dydyn ni ddim wedi mynd mor bell â hynny eto,” meddai, “ond mi ydan ni’n poeni am ein gwaith, mae’r staff yn poeni am eu gwaith ac mae o’n drist – mae o’n effeithio arna ni i gyd.”
“Dwi’n meddwl fod pawb yn bryderus iawn.”
Bydd y cyfyngiadau newydd yn cael eu hadolygu ar Ragfyr 17, a phob tair wythnos wedi hynny.