Roedd rhaid gohirio Gŵyl Fwyd Caernarfon y flwyddyn hon, a fyddai wedi digwydd ym mis Mai, oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Ond mae criw gweithgar yr ŵyl wedi bod wrthi yn ystod y misoedd diwethaf yn arallgyfeirio.
Dywedodd Nici Beech, sy’n eistedd ar y pwyllgor;
“Yr ŵyl sydd yn gweinyddu cyllid y cynllun Porthi Pawb yng Nghaernarfon, sy’n darparu dros 600 o brydau bwyd yn wythnosol i’r rhai sydd eu hangen.
Rydym hefyd wedi bod yn trefnu gwahanol weithgareddau digidol er mwyn cefnogi cynhyrchwyr a chogyddion.”
Bu nifer sydd ynghlwm â’r ŵyl yn gwirfoddoli i helpu pobl fregus y dref yn ystod y cyfnod clo hefyd.
Wrth inni agoshau at dymor y Nadolig, mae’r ŵyl fwyd yn parhau i drefnu digwyddiadau er mwyn cynnal diddordeb yn yr ŵyl.
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal Ffair Nadolig Rithiol ddydd Sul Tachwedd 29ain.
Gobaith y trefnwyr yw y bydd y Ffair yn;
“Ffordd o gefnogi’r busnesau a’r prynwyr sydd fel arfer yn dod i’r ŵyl ym mis Mai bob blwyddyn.
Mae’r gwirfoddolwyr wedi trefnu marchnad rithwir ac ystod o ddigwyddiadau digidol gan obeithio y bydd yn rhoi cyfle i fasnachwyr gysylltu â chwsmeriaid yn ogystal â darparu diwrnod o adloniant i gefnogwyr yr ŵyl.
Mae gíg egslwsif gan Bwncath yn cloi’r diwrnod sy’n rhedeg rhwng 10 am a 4pm.
Bydd gweithgareddau i blant gyda sesiwn grefft Nadolig gan Menna Thomas a sgwrs gyda Siôn Corn dros Zoom, mae’r diwrnod hefyd yn cynnwys arddangosiadau coginio i blant ac oedolion sy’n defnyddio cynnyrch lleol.”
Bydd holl ddigwyddiadau’r Ffair Nadolig yn digwydd ar y wê, ar wahanol blatfformau, ac mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd y Ffair yn ‘hyrwyddo busnesau lleol.’
Yn ôl un o gynrychiolwyr y pwyllgor;
“Mae 30 o gynhyrchwyr yn cael y cyfle i hyrwyddo eu cynnyrch drwy’r dydd mewn digwyddiad ar Facebook.
Mae rhaglen o weithgareddau digidol, byw ac wedi eu recordio yn cael eu cyhoeddi ar sianel AM Gwyl Fwyd Caernarfon hefyd.”
Gallwch weld yr amserlen yn y fan hon.
Ychwanegodd Nici Beech
“Da ni yn gobeithio y bydd pobl yn cefnogi’r ffair wrth brynu nwyddau a mwynhau’r digwyddiadau digidol.
Gobeithio hefyd y bydd hyn yn dueddiad gan bobl yn gyffredinol y Nadolig hwn, i gefnogi busnesau lleol.”