Galar, furlough, Banciau Bwyd a chardiau Nadolig

Ymgyrch Cardiau Nadolig i godi arian i Fanc Bwyd Arfon.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae’n edrych yn debygol y bydd cyfnod y Nadolig yn wahanol iawn eleni, ac mae Anwen Lynne Roberts o’r Felinheli yn un o drigolion yr ardal sy’n addasu i’r cyfnod heriol i gynnig gobaith.

 

“Doeddwn i ddim yn edrych mlaen at y Nadolig eleni, ar ôl imi golli Mam.

 

Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddathlu a gwario, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth o werth.”

 

Collodd Anwen ei mam, y ffigwr lliwgar o’r Felinheli Joyce Roberts yn ystod y cyfnod clo.

 

Fel arfer byddai Anwen ymhlith trigolion gweithgar y Felinheli yng Nghapel Bethania sy’n casglu ar gyfer y Banc Bwyd yn ystod cyfnod y Diolchgarwch a’r Nadolig. Llynedd bu’r criw yn casglu teganau ar gyfer Cymorth i Ferched ac anrhegion i’w rhoi i bobol ifanc GISDA hefyd.

Ond oherwydd amgylchiadau arbennig y flwyddyn, doedd y gwaith hwnnw ddim yn bosibl.

 

Dywedodd Anwen;

 

“Gan nad oedd posib gwneud pethau fel yr arfer, penderfynais wneud cardiau i godi arian tuag at y Banc Bwyd.

Mae llawer mwy o bobl yn ddibynnol ar fanciau bwyd nawr gan iddynt golli eu gwaith neu gael eu rhoi ar furlough.”

 

Hyd yn hyn mae’r ymgyrch wedi codi £1027 mewn ychydig dros bythefnos.

 

“Er ei fod yn arfer gan rai bellach i beidio ag anfon cardiau Nadolig, unai i leihau rhywfaint ar straen yr Ŵyl neu am resymau amgylcheddol, dwi’n credu y bydd cardiau yn bwysig eto eleni, gan nad yw pobl wedi gallu gweld ei gilydd ’run fath, neu ddim o gwbl yn 2020!

Roedd gwneud cardiau yn fodd effeithiol o godi arian at achos da yn fy marn i.

Mae’n ffordd i godi arian sydd o fewn fy ngallu i hefyd, fel rhywun na fedrai redeg marathon neu mentro gwneud her beryglus!”

 

Sefydlodd Anwen dudalen Facebook Dolig Banc Bwyd er mwyn hyrwyddo’r cardiau a’r ymgyrch, ac mae’n gobeithio agor drysau neuadd y pentref cyn y Nadolig i dderbyn cyfraniadau bwyd gan drigolion lleol, yn ogystal â chodi arian ar-lein.

 

Ychwanegodd Anwen;

“Dwi wedi gwirioni gydag haelioni pobl – mae rhai wedi cyfrannu er nad oeddynt eisiau cardiau.

Mae modd archebu cardiau o hyd a gallwch gyfrannu ar y dudalen Just Giving.

Diolch i bawb sydd wedi cefnogi’r Banc Bwyd.”