Gobeithio na fydd hysbyseb Llywodraeth y DU yn ‘troi pobl ifanc oddi wrth y celfyddydau.’

Mae Nia Hâf yn gobeithio na fydd hysbyseb yn annog gweithwyr yn y celfyddydau i ail-hyfforddi yn ‘troi pobl ifanc oddi wrth y celfyddydau.’

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
127542364_3453526054760657

Nia Hâf o Lanrug

Mae Nia Hâf o Lanrug yn gweithio gyda Chwmni theatr Frân Wen, ac yn pryderu am strategaeth Llwyodraeth y DU i annog gweithwyr yn y Celfyddydau i ail-hyfforddi oherwydd effaith y pandemig ar y sector.

Daeth Llywodraeth y DU dan y lach yn ddiweddar am gyhoeddi hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn awgrymu y dylai dawnsiwr bale o’r enw ‘Fatima’ ailhyfforddi mewn seiberddiogelwch, oherwydd diffyg gwaith yn sector y celfyddydau fel sgil-effaith i’r pandemig.

Dywedodd Nia;

“Dwi’n meddwl mai’r broblem hefo strategaeth y Llywodraeth o wthio pobol i ail-hyfforddi ydi ‘am-byth-edd’ y peth.

Nid er lles tymor byr y rheiny sy’n cael eu heffeithio gan y di-weithdra dros-dro y mae’r cwis yma wedi’i greu, ond fel ysgogiad iddyn nhw newid gyrfa’n gyfan gwbl, a chamu i ffwrdd o’u gyrfaoedd yn y celfyddydau.

Pam hynny?

Dwi’n gweithio fel Cyfarwyddwr Cwmni Ifanc, yn creu yng nghwmni pobl ifanc angerddol, anhygoel bob dydd, a dwi’n dyst i’r galw i feddwl am sefyllfaoedd bob dydd mewn ffyrdd creadigol, i ymgysylltu, ac i ddarganfod ffyrdd newydd o gyfathrebu, yn fwy nag erioed o’r blaen.

Dwi’n gobeithio’n arw nad effaith yr hysbyseb yma fydd troi ein pobl ifanc ni oddi wrth yrfaoedd yn y celfyddydau, yn enwedig yn dilyn un o’r cyfnodau lle mae cyswllt creadigol wedi’i brofi i fod ar ei fwyaf gwerthfawr.”

Mae Nia Hâf wedi awgrymu y dylid ymateb i agweddau o’r fath drwy

“Gario ’mlaen i gynnig y cyfleoedd celfyddydol mwya’ cyfoethog bosib i’n pobl ifanc ni.

Nes i ddim penderfynu bod yn Gyfarwyddwr Cwmni Ifanc yn 16 oed – doeddwn i ddim hyd yn oed yn ymwybodol bod y fath swydd yn bodoli!”