Menai Rowlands, sy’n dod yn wreiddiol o bentref Llanfaglan ar gyrion Caernarfon, yw perchennog Dyluniadau Menai. Ar ôl graddio gyda BA mewn Dylunio Cynnyrch yn 2015, roedd Menai yn benderfynol o aros yn ei bro lleol.
“Ro’n i isio aros yn ein hardal brydferth.
“Dwi o Lanfaglan yn wreiddiol, felly i wneud be dwi’n ei garu ac aros yma, roedd dechrau busnes yn gam reit naturiol imi.
“Roeddwn i wedi cael fy ysbrydoli gan y gymyned a ffrindiau yn y maes, yn ogystal â phrosiectau arloesol fel Fablab yn Pontio, Bangor a CARN.”
Gofynodd Caernarfon360 i Menai sôn am effaith pandemig 2020 ar ei busnes;
“Bu’n anodd addasu fy ffordd o weithio yn gyflym.
“Roeddwn i wedi oedi fy nghynhyrchu a chau’r gweithdy yn ystod y cyfnod clo, ond ers hynny dwi wedi dechrau trosglwyddo fy nghynnyrch ar-lein.
“Er nad ydw i’n gallu gweld fy nghwsmeriaid yn y Ffeiriau Nadolig ’leni, mae fy siop etsy ar-lein wedi bod yn arbennig ac wedi annog imi ddatblygu cynnyrch newydd.
“Dwi’n hynod o ddiolchgar a ffodus bod cwsmeriaid, ffrindiau a theulu wedi bod mor gefnogol o fy mentr.”