Mae Clwb Rygbi Caernarfon yn falch i ddatgan y bod y gwaith ar y cae 3G newydd yn mynd yn ei flaen yn dda ar hyn o bryd. Mae’r tyrchu a’r lefelu wedi’i gwblhau ac erbyn hyn mae ffens yn amgylchynu’r terfyn.
Y cam nesaf bydd gosod yr wyneb artiffisial yn ei le ac mae gofyn tywydd sych i wneud hynny. Os yw’r tywydd yn ffafriol dros yr wythnosau nesaf mae’n bosib bydd y cyfan wedi’i orffen erbyn diwedd Medi.
Lleoliad y datblygiad yw’r ‘cae bach’ – sy’n ymddangos yn llawer mwy bellach. Bwriad yr adnodd yw cynnig cae ymarfer gydol y flwyddyn ar gyfer timoedd niferus y Clwb. Yn ystod tywydd gwlyb y gaeaf, mae timoedd hŷn yn gorfod symud i leoliad amgen ar gyfer hyfforddi tu allan.
Bydd yr adnodd hwn hefyd ar gael i’w logi gan grwpiau cymunedol, lleol. Mae is-bwyllgor wedi’i ffurfio i ystyried amserlen ar gyfer ei ddefnyddio ac amodau a thelerau ei logi. Pan fydd y gwaith gweinyddol wedi’i gwblhau bydd y Clwb yn hysbysu clybiau chwaraeon yr ardal.
Wrth ddatblygu’r cae ymarfer mae’r Clwb yn cynllunio rhaglen gyson i’w gadw a’i gynnal mewn cyflwr da at y dyfodol.
Mae’r Clwb yn cydnabod na ellid fod wedi gwireddu’r prosiect heb gefnogaeth ‘Chwaraeon Cymru’ ac ‘Undeb Rygbi Cymru’. Diolch i’r ddau gorff am fuddsoddi yng Nghaernarfon a dyfodol Clwb Rygbi Caernarfon.