Does dim gwadu’r ffaith bod tref Caernarfon yn agos iawn at galon y cogydd, Chris ‘Flamebaster’ Roberts, ac mae golygfeydd godidog o ben Twthill a’r Foryd, cynhyrchwyr lleol fel Wil Bwtch a thrigolion lliwgar y dre wedi ennill sylw amlwg yn ei gyfres boblogaidd ‘Bwyd Epic Chris.’
Ym mhennod gyntaf y drydedd gyfres ryseitau tir a môr sy’n mynd a bryd Chris; cyfuniad epic o fwyd môr Y Fenai a chigoedd gora’ Eryri, a hynny, er mwyn ail-greu ryseit ‘Surf ‘n’ Turf’ Fictoriadd: Pei Cig Eidion a Wystrys. Ond cyn mynd ati i greu’r pei hanesyddol yma – a gan gofio’r ‘big love’ sydd gan Chris tuag at Dre – mi ges i’r her o fwrw golwg dros hanes wystrys yng ngogledd Cymru er mwyn gwneud yn siwr bod y Cofis hefyd (fel y Sgowsars a’r Cockneys) wedi mwynhau bwyta wystrys cant a mwy o flynyddoedd yn ôl.
Stryd Fawr Caernarfon, tua’r flwyddyn 1920.
Yn ystod Oes Fictoria mi roedd pobl o bob cefndir a dosbarth wrth eu bodd yn bwyta wystrys a gan bod digonedd ohonynt ym magu yn nyfroedd Cymru roeddent yn rhad i’w prynu. Mae’r Illustrated London News yn nodi yn 1851 bod modd prynu 4 wystrys am geiniog ar strydoedd Llundain ac o edrych ar hysbysebion ym mhapurau newydd Cymru mae’n debyg fod modd prynu 120 wystrys am 5 swllt (tua £20 yn ein harian ni heddiw) erbyn 1904. Gan eu bod mor rhad, ychwanegwyd wystrys at brydau drutach fel pastai cig – gan greu’r Surf ‘n’ Turf gwreiddiol! Mi fyddai pobl yn bwyta wystrys i frecwast, i ginio ac i swper: y cyfoethog a’r tlawd fel ei gilydd. Mi roedd pobl hyd yn oed yn berchen ar blatiau arbennig ar gyfer gweini a’u bwyta, wedi’u siapio a’u paentio fel cregyn wystrys.
Yn ôl Lewis Morris, yn ysgrifennu yn 1748, mi roedd wystrys yn cael eu cynaeafu ar hyd arfordir gogledd Cymru, gan gynnwys, Caernarfon…
‘All this coast abounds with Oysters: Those of Penmon are fat and large, and famous for Pickling… Oysters were also exported ‘in plenty’ from Holyhead, Aberffraw and Caernarfon. At ‘Porthdinlleyn and Nefyn, Herrings and Oysters are the chief commodities of these places’; Pwllheli ‘In this bay there are large Beds of Oysters.’
Mi roedd yna hen goel bod 100 o wystrys wedi cael eu gollwng yn y Fenai yn ystod ryw oes, a dyna sut y dechreuwyd cynaeafu wystrys yn y Fenai. Meddai Richard Llwyd, yn ysgrifennu tua’r flwyddyn 1832:
‘About a century and a half ago, some beneficent person is said to have thrown about a hundred Oysters into the Menai, where they increased wonderfully, as they also do in different places by the storm driving their seeds in various directions.’
Bwyd stryd oedd wystrys ond mi roeddent hefyd yn bryd poblogaidd yn y tafarndai: ar gael yn rhad hefo peint o stowt fel rheol. I’r gweithiwr cyffredin roedd stowt yn ddewis poblogaidd oherwydd y blas cryf, y canran uwch o alcohol, a’r pris. Aethpwyd ati i farchnata stowt fel diod ‘maethlon’ gan awgrymu y dylid ei baru gydag wystrys – y pryd rhad delfrydol ar gyfer unrhyw weithiwr hefo cyflog yn llosgi yn ei boced! Roedd parlyrau wystrys, salŵns wystrys, a seleri wystrys yn frith ar strydoedd dinasoedd a threfi yn Ewrop a’r Unol Daleithiau. A daeth y trend i Gaernarfon hefyd, diolch i Wyddel o’r enw Martin Conlan.
Ym 1895 mae Gwyddel o’r enw Martin Patrick Conlan, (g. 1872) yn prynu’r Commerical Hotel a’r Snowdon Vaults, 17-19 Stryd Fawr Caernarfon, sef lleoliad tafarn Y Goron erbyn heddiw. Yn ôl Cyfrifiad 1911, mi roedd Martin a’i wraig Elizabeth yn siarad Gaeleg, Saesneg a Chymraeg. Yn fuan wedi prynu prydles yr adeiladau fe drawsnewidiwyd y Snowdon Vaults yn ‘Oyster Saloon’ gyda’r Conlans yn gwerthu ‘Oysters, Stout, Hovis Bread and Butter… [and] a special selection of wines, spirits and cigars.’ Swnio fel dipyn o le!
Yn naturiol, mi roedd 17 Mawrth yn ddiwrnod pwysig yng nghalender y teulu yma, hefo’r Conlans yn trefnu gwleddau arbennig yn y Saloon i ddathlu Dydd Sant Padrig hefo Gwyddelod a Chymry Dre. Ym 1906, mi wnaeth Martin Conlan gais i’r Ynadon Lleol am gael aros ar agor tan hanner nos er mwyn cael dathlu’n iawn! Er gwaetha’r cais swyddogol, mae’r papurau newydd yn awgymru bod Martin ac Elizabeth wedi ymddangos yn y Llysoedd yn rheolaidd, a hynny, am werthu tu allan i oriau ac am werthu alcohol i unigolion oedd wedi meddwi’n barod.
Yn anffodus, fe welwyd dirywiad difrifol yn niferoedd y wystrys brodorol yng Nghymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, yn bennaf o achos gor-bysgota a achoswyd yn rhannol yn sgil dyfodiad y rheilffyrdd a’r galw mawr am wystrys yn ninasoedd Lloegr. Yn yr un cyfnod, roedd lefelau llygredd cynyddol yn sgil diwydiant hefyd yn effeithio’n sylweddol ar y wystrys Cymreig. Erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf roedd y fasnach wystrys wedi dirywio 75% yng ngwledydd Prydain.
Erbyn 1914, yn sgil dirywiad yn y fasnach wystrys mae Martin Conlan yn fethdalwr, ac mewn dyled o £1,833 1s 3c (sydd o gwmpas £110,000 yn ein harian ni heddiw!) Ar 8 Rhagfyr 1914, mewn erthygl yn Yr Herald Cymraeg mae Conlan yn nodi ‘iddo fyned yn fethdalwr oherwydd masnach wael, a benthyca arian, a gofynwyr yn pwyso arno.’
Bydd mwy o hanes Oyster Saloon Caernarfon i’w weld ar S4C am 8.30 ar nos Lun 28 Rhagfyr (ac ar S4C Clic a BBC Iplayer wedi hynny).