Plismona’r rheilffyrdd yn ystod y Cyfnod Clo

Fy mhrofiad i o blismona rheilffyrdd gogledd Cymru yn ystod y 6 mis diwethaf

gan Nathan Lewis

Fy enw i yw Nathan a dwi’n gweithio fel swyddog ar gyfer yr Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig, ac yr wyf wedi bod yn y swydd yn y swydd yma am bron i dair blynedd.

Rwyf wedi parhau i weithio fel gweithiwr allweddol trwy’r Cyfnod Clo, ac ar adegau, mae hyn wedi bod yn heriol iawn. Prif elfen fy swydd arferol yw plismona’r rheilffyrdd ar draws Gogledd Cymru gan ddarparu gwasanaeth ar gyfer gweithredwyr rheilffyrdd, eu staff a theithwyr.

Yn ystod fy niwrnod arferol yn y gwaith, yr wyf yn ymateb i unrhyw argyfwng sydd ar y rheilffordd yng ngogledd Cymru, yn delio gydag unrhyw drafferthion ar y trenau, ac yn sicrhau fod unigolion yn teimlo’n ddiogel yn y gorsafoedd. Ond mae’r chwe mis diwethaf wedi bod yn eithaf gwahanol.

Roedd yn rhaid parhau i ddod i’r gwaith yn ystod y cyfnod heriol yma er mwyn gallu cadw cymuned y rheilffordd yn saff. Roedd y cyfyngiadau teithio mewn lle yn rhoi’r pŵer i ni gwestiynu teithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn teithio ar gyfer dibenion hanfodol yn unig. Fy mhrif rôl arall oedd sicrhau fod unigolion yn cadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol.

Roedd gwneud yn siŵr fod teithwyr yn cadw at ganllawiau’r llywodraeth yn gallu bod yn sialens, ond ar y cyfan, yr oedd pobol yn gall. Distawodd y trenau yn ystod prif gyfnod y Clo Mawr, ac anaml oedd unigolion yn teithio heb reswm teilwng. Ond, er gwaethaf hyn, yr oeddem dal yn gorfod delio gydag ambell i unigolyn oedd yn mynnu mynd am dro neu i weld ffrindiau yn ystod y Clo Mawr.

Er mwyn gallu plismona’r sefyllfa, yr oeddym yn dilyn system ‘4 E’ (yn saesneg). Golygai hyn:

Engage- Siarad gyda’r unigolyn

Explain – Egluro’r sefyllfa a rheolau’r llywodraeth

Encourage – Annog yr unigolion i wrando, ac i beidio anwybyddu’r rheolau eto

Enforce – Os nad yw’r unigolyn yn gwrando, mae’n rhaid rhoi dirwy. Rydym yn trio ein gorau i beidio rhoi dirwy, ac yn ceisio cael sgwrs gyda’r unigolion yn lle gwneud hyn.

Ers i’r cyfyngiaiadau teithio llacio, mae’r trenau wedi prysuro unwaith eto. Felly, erbyn hyn rydym yn andros o brysur yn cwblhau ein gwaith arferol, yn o gystal â sicrhau fod unigolion yn dilyn y rheolau newydd sy’n ymwneud â’r feirws. Rydym wedi gorfod addasu er mwyn gallu plismona yn effeithiol.

Mae gwisgo masg yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ar y funud. Oherwydd hyn, yr wyf yn cario cyflenwad o fasgiau gyda fi yn ystod y diwrnod gwaith. Felly, os oes unrhyw un wedi anghofio masg ar gyfer y daith, yr ydwyf yn gallu cynnig un iddynt. Mae’n well gen i wneud hyn na rhoi dirwy yn syth. Byddaf ond yn rhoi dirwy os yw’r unigolion yn gwrthod gwrando yn llwyr.

Wrth edrych ymlaen, yr ydwyf yn gobeithio y gall rheolau lacio, sydd yn golygu fod pethau yn dechrau gwella o ran y feirws. Ond ar y funud, mae ffigyrau yn gwaethygu eto, felly’r peryg yw y bydd mwy o reolau teithio yn cael eu cyflwyno. Mae’r rheolau yma yn newydd i bob un ohonom, felly rhan fawr o fy swydd i ar y funud yw sicrhau fod pawb yn deall, ac yn gallu teithio yn ddiogel a chyfforddus. Mae teithio ar drên yn brofiad gwahanol iawn ar y funud, ond mae’n hanfodol cadw at y rheolau er mwyn sicrhau diogelwch pawb.