Ar ôl cael ei roi ar ffyrlo ar gychwyn y cyfnod clo mawr, penderfynodd Chris Summers fynd ati i sefydlu menter gymdeithasol yng Nghaernarfon.
Bwriad cychwynnol Porthi Pawb oedd darparu prydau poeth i’r henoed a phobl fregus y dref.
Dros yr haf, sefydlodd y criw gweithgar Porthi Plantos, gan ddarparu cinio i blant ysgol dros wyliau’r haf.
Bellach, mae’r prosiect wedi ehangu unwaith yn rhagor, gan sefydlu banc dillad i blant y dref – Porthi Plantos Dillad.
“Teuluoedd angen help”
“Ar ddechrau gwyliau’r haf – wnaethon ni benderfynu sefydlu Porthi Plantos,” eglurai Chris Summers, “lle rydan ni’n rhoi bwyd i blant yng Nghaernarfon, ac mae o wedi bod yn boblogaidd iawn.
“Ar ben hynny, mae rhai o aelodau Porthi Pawb, yn benodol Eleri Lovgreen a Dawn Jones, wedi sefydlu Porthi Plantos Dillad.
“Maen nhw’n derbyn dillad ail-law, sydd mewn cyflwr da, yn golchi nhw ac yn trefnu nhw a rhannu nhw allan i’r bobl sydd angen nhw.
“Wrth ddarparu bwyd i deuluoedd sydd hefo plant mewn angen… mae rhai o’r gwirfoddolwyr wedi gweld bod y teuluoedd angen help mewn ffordd bellach hefyd.
“Felly, mae’r prosiect wedi ehangu i lefydd eraill rŵan mewn ffordd.”
“Mae o’n fraint cael bod yn rhan o’r tîm”
“Mae rhai ohona ni yn gweithio saith diwrnod yr wythnos yn gwneud Porthi Pawb, Porthi Plantos a Porthi Plantos Dillad. Mae o yn full time – mae o really yn llawn amser,” meddai Chris Summers.
“Ar ben hynny, mae bron iawn bob un ohono ni yn gweithio llawn amser yn ein gwaith arferol.”
Er hynny, dywedodd bod y gefnogaeth leol wedi bod yn help mawr wrth ehangu’r prosiect.
“Rydan ni’n ffodus i weithio law yn llaw hefo Plaid Cymru,” meddai.
“Rydan ni wedi gweithio lot hefo Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Caernarfon, yr Adran Dai, Mantell Gwynedd a chwpwl o fusnesau lleol – sydd wedi helpu ni allan lot.
“Mae o’n brilliant… rydan ni gyd yn mwynhau cwmni ein gilydd… mae o’n fraint cael bod yn rhan o’r tîm sy’n gwneud rhywbeth mor dda i’r gymuned.
“Paid â chael fi’n wrong – fel pob tref mae yna lot o bobl yn disgyn allan. Ond when the going gets tough mae pawb just dig in a helpu ei gilydd… a dyna rydan ni wedi ei weld.
“Mae’r flwyddyn yma wedi dangos does yna ddim amser i bobl ddadlau dros faterion gwirion – rydan ni gyd angen tynnu at ein gilydd a helpu.”
“Mae o’n unstoppable!”
“Mae’r gwasanaeth dal i redeg dros y Nadolig – does yna ddim byd yn stopio,” meddai Chris.
“Mae ganddo ni gynnig wythnos nesaf lle rydan ni’n darparu cinio Dolig i bawb – gwneud o bach yn sbeshal iddyn nhw.”
“Rydan ni wedi adeiladu peiriant mawr rŵan hefo Porthi Pawb ac mae o’n unstoppable!”
“Dal i fynd – dyna rydan ni gyd yn ddweud, ac rydan ni’n ddweud o hefo balchder.”