Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, ac mae awdur o Gaernarfon ymhlith y sgwennwyr ar y rhestr fer.
Cafodd enwau’r 12 llyfr Cymraeg eu datgelu am y tro cyntaf ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru heno.
Mae’r gwobrau yn cael eu rhoi o fewn pedwar categori gwahanol sef Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc.
Mae Ymbapuroli gan Angharad Price ar restr fer y categori Gwobr Ffeithiol Greadigol.
Y beirniaid eleni yw Guto Dafydd; y cyn Fardd Plant Cymru Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwraig Esyllt Sears.
Magwyd Angharad Price ym Methel, ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda’i theulu.
Enillodd y Fedal Ryddiaith gyda’i chyfrol O! Tyn y Gorchudd yn 2002. Cyrhaeddodd ei llyfr am Gaernarfon, Caersaint restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.