Apêl Nadolig bron â chyrraedd £1000

Mae’r elusen yn codi arian i gefnogi plant gyda chancr

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae apêl Nadolig ASau Caernarfon bron â chyrraedd £1,000.

Lansiwyd apêl Nadolig Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS i godi arian at elusen Gafael Llaw, elusen sy’n cefnogi plant Gwynedd a Môn sy’n dioddef o gancr. 

Mae gwaith yr elusen yn canolbwyntio ar roi cefnogaeth ariannol i Ward Dewi Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl a’r elusen Clic Sergant.

 

Sefydlwyd Gafael Llaw yn 2013 gan griw o wirfoddolwyr yn ardal Caernarfon er mwyn ymateb i bryder lleol bod y ddarpariaeth a’r gofal i blant a phobl ifanc yr ardal a oedd yn dioddef â chancr yn anigonol.

Wrth sôn am yr ymgyrch codi arian, dywedodd Siân Gwenllian, yr Aelod o’r Senedd dros Arfon:

 

“Mae’r gwaith mae Gafael Llaw yn ei wneud yn amhrisiadwy wrth leddfu gofidion plant, pobol ifanc a’u teuluoedd ar un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn eu bywydau.”

Ychwanegodd Hywel Williams AS;

 

“Mae Gafael Llaw yn agos iawn at galonnau pobol leol sydd wedi wynebu’r amgylchiadau erchyll o gael plentyn yn mynd drwy driniaeth cancr.”

Mae gan bobl ddiwrnod ar ôl i gyfrannu drwy ddilyn y ddolen hon.