Lôn yn beryglus

Pryder am ddamweiniau ar lôn brysur 

gan Elliw Llŷr
Screenshot_20211121-1300292

Damwain car yn mis Tachwedd

Screenshot_20211121-1300082

Damwain car yn mis Ebrill

IMG-20211121-WA00012

Difrod i wal Eagles ar ol damwain yn mis Hydref

Mae pobl sydd yn byw ar Stryd y Degwm yn poeni am nifer o ddamweiniau sydd di bod ar y lôn. Mae tua 6 damwain wedi bod yn y 9 mis diwethaf ac mae Dylan Jones sydd yn byw ar y stryd yn gofyn i bobl fod yn ofalus.

Mae yn lôn brysur gyda nifer o bobl yn cerdded i ac o dre, ac er bod ’na subway mae rhai wedi deud nad hwnnw yn neis i gerdded drwyddo.

Mae Kath, sydd yn cadw Tafarn yr Eagles, wedi cael difrod i wal ar ôl i gar ddreifio yn rhy gyflym dros y pafin a fewn i wal y dafarn yn mis Hydref ac mae Dylan wedi cael car yn difrodi ei wal ffrynt, ar ôl i gar gael damwain fo lori ac eto mynd dros y pafin yn mis Ebrill.

Mae Cyngor Gwynedd wedi gofyn am ba ddefnydd sydd i’r ‘flyover’ unwaith bydd y lôn newydd wedi agor, ond yn y cyfamser mae pobl yn poeni am eu diogelwch ar lon brysur iawn.