Mae’r fenter newydd gyffrous yng nghanol tre Caernarfon wedi ei sefydlu er mwyn ailddefnyddio, ailgylchu a thrwsio dillad, bwyd, offer trydanol a dodrefn, yn ogystal â chynnig lleoliad cartrefol i ar gyfer sgwrs a phaned.
Ond mae’r fenter yn chwilio am enw bachog, ac mae nhw’n galw ar bobol Caernarfon am gymorth!
Mae’r fenter yn cael ei sefydlu ar ôl i Gyngor Tref Caernarfon sicrhau grant gan Gronfa Economi Gylchol Adferiad Gwyrdd 2020-21 Llywodraeth Cymru i greu hwb cymunedol ar gyfer trwsio, ail-ddefnyddio ac ailgylchu nwyddau yng nghanol tref Caernarfon.
Cam cyntaf y cynllun fydd canfod lleoliad addas a gwag yn y dre, er mwyn cyfrannu hefyd at adfywio canol y dre.
Er mwyn ymgeisio yn y gystadleuaeth, dylech anfon neges i dudalen Facebook Porthi Pawb.
Ar ran y Cyngor, dywedodd Sion Wyn Evans, Clerc y Dref, “Mae Cyngor Tref Caernarfon yn falch fod arian grant wedi cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl Caernarfon mewn nifer o wahanol ffyrdd, ac hefyd fod hyn yn cynorthwyo i wella’r amgylchedd drwy ail-gylchu. Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd pawb o fewn y Cyngor i symud y fenter yn ei blaen, a chydweithio gydag eraill, er budd trigolion y dref mewn cyfnod anodd i bawb.”