Bydd Caernarfon yn herio’r Drenewydd ar yr Oval heno (nos Wener, 27 Awst), ac mae’r clwb yn gobeithio gweld “torf fawr ar ôl tymor caled” y llynedd.
Mae hi wedi bod yn ddechrau parchus i’r tymor gan y Cofis, gan ennill ei gêm gyntaf yn erbyn Hwlffordd 2-0, cyn colli 5-3 oddi gartref yn erbyn y Seintiau Newydd.
Fyse ni wrth ein bodd gweld torf fawr yn yr Oval heno. Ar ôl tymor caled tro diwethaf, fyse ni yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth heno ?? pic.twitter.com/MfNgJFdhPW
— Caernarfon Town FC (@CaernarfonTown) August 27, 2021
Ond bydd tîm Huw Griffiths yn awyddus i ddial yn erbyn y Drenewydd, ar ôl colli yn eu herbyn yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle y llynedd.
Bydd y gic gyntaf heno am 7:45yh, gyda thicedi ar gael un ai ar y giât neu drwy’r wefan Skiddle.
????????
Caernarfon vs Newtown
?️Yr Oval
⌚️19:45
?️On The Gate & Through Skiddle
? https://t.co/15r3P6uv9i pic.twitter.com/PW5JPgZTX2— Caernarfon Town FC (@CaernarfonTown) August 27, 2021