Cannwyll ar stepan y drws i “ddangos undod.”

Mae’r wylnos yn rhan o ddigwyddiad cenedlaethol i gofio a galw am newid.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Bydd gwylnos yng Nghaernarfon nos Fercher (17/03/21) fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol yn sgil llofruddiaeth Sarah Everard.

Gall unrhyw un gymryd rhan, drwy sefyll ar stepan y drws, a chynnau cannwyll am 8yh.

Yn ôl trefnwyr, cynhelir yr wylnos “i bob merch sydd dan fygythiad ar ein strydoedd.”

Mae’r wylnos yn cael ei chynnal yn sgil llofruddiaeth Sarah Everard, a digwyddiadau cythryblus yn Clapham Common rai dyddiau’n ôl.

Mae plismon gyda Heddlu Llundain a dynes wedi cael eu harestio mewn perthynas â llofruddiaeth y ddynes 33 oed o Lundain.