“Cyfle Olaf” i achub Ty’n Llan

Mae’r actor enwog Rhys Ifans wedi cefnogi’r alwad

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Menter Ty’n Llan, menter gymunedol i brynu hen dafarn Ty’n Llan ym mhentref Llandwrog ger Caernarfon yn annog pobol i gefnogi’r fenter ar yr unfed-awr-ar-ddeg.

Mae gan y fenter tan Ddydd Gwener i godi £400,000, ac maent bellach wedi codi dros 70% o’r targed.

Mae’r actor byd enwog Rhys Ifans wedi cefnogi’r alwad, gan ddweud bod “tafarn dda yn galon i’r gymuned, ond tydi hi ddim os ydi hi ar gau.”

Mae wedi galw ar bobol i “gefnogi’r fenter fendigedig yma!”

Caeodd drysau’r dafarn fwy na thair blynedd yn ôl. Yn ôl y fenter y gallai’r adeilad 200 oed fod yn siop, caffi, a chanolfan gymunedol i’r pentref hefyd.

Gallwch gefnogi’r fenter drwy brynu siârs yma.