gan
Osian Wyn Owen
Unwaith eto eleni bydd Cyngor Tref Caernarfon, ar y cyd â Chanolfan Arddio Fron Goch yn cynnal cystadleuaeth gerddi.
Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu yn ystod wythnos Gorffennaf 19eg, a dylai’r sawl sy’n bwriadu cymryd rhan baratoi eu gerddi ar gyfer yr wythnos honno.
Gwobrwyir yr ardd orau ymhob ward, ac mae gwobrau ar gyfer categorïau fel basgedi crog a blychau ffenest.
Er mwyn cymryd rhan mae gofyn i gystadleuwyr gysylltu â Chlerc y Dref ar clercydref@cyngortrefcaernarfon.llyw.cym