Dewis ‘5 Llyfr Lleol’ Palas Print.

5 llyfr sydd â chysylltiadau lleol i ddathlu diwrnod y llyfr.

gan Palas Print
Ymbapuroli

Ymbapuroli

Anodd dewis 5 llyfr ‘lleol’, da ni’n ffodus iawn fod ‘na andros o lot o bobl greadigol yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon… ond dyma 5 teitl cymharol diweddar sy’n rhoi cip yr amrywiaeth eang o lyfrau sydd ar gael yn Palas Print – llyfrau i blant ac oedolion, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ffuglen ac yn ffeithiol, yn hwyl ac yn addysgiadol… pob un ar gael ar ein gwefan palasprint.com neu drwy ffonio’r siop ar 01286 674631

1. Paned o de yn Georgia.
Wendy Jones, £9.95.

Yn ei chyfrol gyntaf, mae Wendy Jones, sy’n byw ar gyrion Caernarfon, yn ein tywys i bellafoedd Rwsia, gan roi cip i ni ar hanes a diwylliant y wlad, drwy gyfres o ysgrifau difyr a phersonol sy hefyd yn ymdrin â hunaniaeth.

2. Ymbapuroli.
Angharad Price, £8.00

Perl o gyfrol o ysgrifau hen a newydd wedi’u sgwennu’n gelfydd.  Rhai’n lleol iawn, rhai’n rhyngwladol, rhai’n edrych yn ôl, a rhai yn gyfredol iawn, a llinyn annisgwyl yn eu cydio ynghyd.

3. The Melting Pot.
Maggie Ogunbanwo, £9.99

Yn y gyfrol lliwgar hon, sy’n ddathliad o amrywiaeth mae Maggie wedi casglu ynghyd rysetiau, a storiau, o bedwar ban byd – o Bali i Zimbabwe – gan aelodau o’r gymuned lleiafrifol ethnig yng Nghymru y gall pawb eu mwynhau

4. Dim Rwan na Nawr, Hanes Cymru Drwy’r Oesoedd.
Tudur Owen a Dyl Mei, £6.99

Cyfrol hwylus iawn, hawdd ei ddarllen, llawn lluniau a tomen o ffeithiau difyr am hanes Cymru. ‘Spin-off’ o’r podlediad poblogaidd sy’n ein tywys drwy hanes Cymru, o gyfnod y bobl gyntaf yng Nghymru hyd at gyfnod Owain Glyndwr….

5. Castell Siwgr.
Angarad Tomos, £8.50.

Nofel hanesyddol ddirdynnol (wedi’i anelu at bobl ifanc, ond yn addysg i bawb), am ddwy ferch, un yn forwyn yng Nghastell Penrhyn, a’r llall yn gaethferch ymhellach oddi yma, sy’n amlygu cysylltiad Castell Penrhyn â dioddefaint pobl ar ddau gyfandir.