Seidar newydd yn Dre?

Dewch am dro i’r Black Boy

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae un o dafarndai mwya eiconig Dre yn gwerthu seidar lleol sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

Mae Pellan y Fro yn cael ei gynhyrchu gan Antur Waunfawr sy’n darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i oedolion ag anableddau dysgu.

 

Mae’r fenter wedi’i lleoli yn Weun, ond mae gynnon ni ganolfannau yng Nghaernarfon hefyd, wrth gwrs.

 

Mae tri blas gwahanaol ar y seidar ac mae nhw’n cael eu cynhyrchu ar safle Antur Waunfawr gan oedolion ag anableddau dysgu sy’n derbyn cymorth.

 

Ac yn ddiweddar, mae’r seidar wedi cyrraedd silffoedd un o dafarndai mwyaf adnabyddus Cymru.

 

Cafodd y Black Boy ei hadeiladu yn 1522 o fewn muriau canoloesol Caernarfon, ac mae’n un o’r tafarndai hynaf yng ngogledd Cymru.

 

Ond erbyn hyn mae’r Black yn ffefryn gan bobol leol ac ymwelwyr fel ei gilydd ac yn ddiweddar mae nhw wedi dechrau stocio seidar lleol sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu.

 

Enillodd seidar Perllan y Fro – Riwbob ac Afal y Great Taste Award yn 2021.

 

Mae John, landlord adnabyddus y Black Boy yn credu ei fod yn bwysig cael meddylfryd lleol wrth redeg busnes.

 

“Mae’n bwysig gwerthu cynnyrch lleol.

 

“Dw i wedi gweithio yn y Black Boy ers 50 mlynedd. Dwi’n cofio Antur Waunfawr yn cael ei sefydlu. Mae’n bwysig cefnogi’r gwaith gwych mae’r Antur yn ei wneud.

 

“Mae’r Black Boy yn boblogaidd efo pobol leol ac ymwelwyr, ac mae’r ymwelwyr hynny’n awyddus i flasu cynnyrch lleol.

 

“Dyna pam mae’r mwyafrif o ymwelwyr yn dod yma. Maen nhw’n chwilio am rywbeth sy’n unigryw i’r dref yma.”

 

Mae John yn pwysleisio ei bod yn bwysig bod busnesau lleol yn cefnogi ei gilydd.

 

“Wrth i gostau godi ac wrth inni drio lleihau ein hôl troed carbon, mae prynu’n lleol yn bwysicach fyth.”

 

Mi rydan ni’n falch fod busnesau lleol fel y Black Boy, wedi dechrau gwerthu ein seidar lleol. Drwy fwynhau potel o Berllan y Fro mae pobol leol  ac ymwelwyr yn cefnogi’r gwaith gwerthfawr rydan n’n ei wneud gydag oedolion ag anableddau dysgu.”

 

Mae’r seidar hefyd ar gael i’w brynu ar wefan Antur Waunfawr: https://www.anturwaunfawr.org/shop/