Digwyddiad blasu gwin unigryw yn dod i Gaernarfon

Y Ffrancwr Francis Dupuy sy’n cynnal y noson

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
thumbnail_image0

Wedi ei gynnwys gyda chaniatâd BrogaWines

Ar nos Sadwrn, 18 Medi, bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn cynnal digwyddiad blasu gwin unigryw yn ‘Yr Aelwyd’ yng Nghaernarfon.

Mae’r Ŵyl yn croesawu cyn berchennog bwyty Les Gallois yng Nghaerdydd, Francis Dupuy, i gynnal noson blasu gwin yn y dre.

Yn ôl Gŵyl Fwyd Caernarfon, yn ogystal â blasu ystod wych o winoedd, bydd Francis hefyd yn cynnig ymgynghoriad ar y gwinoedd gorau i weddu gyda’ch paled a’ch poced.

Cyrhaeddodd Francis Gaerdydd ym 1989 a gwnaeth ei farc yn y brifddinas yn y 1990au gyda bwyty Le Gallois. Aeth ymlaen i ennill ei blwyf fel cogydd, a bu ei enw’n gysylltiedig â Pier 64 a Chez Francis.

Gyda blynyddoedd lawer o brofiad yn y diwydiant a chyfoeth o gysylltiadau, yn y DU a thu hwnt yn Ewrop, mae Francis a’i gwmni ‘Broga Wines’ yn dod ag ystod wych o winoedd i farchnad sy’n tyfu o hyd. Mae ei ffocws yn Broga Wines ar ddod o hyd i’r gwinoedd gorau gan gynhyrchwyr gwin sy’n angerddol am eu gwaith, tra’n gwrando ar y cwsmer.

Dywedodd y trefnydd y noson, Menna Thomas o Gŵyl Fwyd Caernarfon,

Bydd yn hyfryd cael croesawu Francis i Gaernarfon. Mae’n anodd curo ei gyfoeth o wybodaeth, ac os ydych chi yn hoff o win, dylai hon fod yn noson ddiddorol ac hwyliog.

Ein nod ni yn Gŵyl Fwyd Caernarfon yw cefnogi’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ac mae Francis Dupuy o Broga Wines yn ychwanegiad gwych at ein calendr o ddigwyddiadau eleni.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar gael o wefan Gŵyl Fwyd Caernarfon. Maent yn £17 y pen ac yn cynnwys gwin a bwyd ysgafn.