Tîm Dros yr Aber yn fuddugol yn ffeinal y Talwrn

Nid dyma’r tro cyntaf i’r tîm o Dre ddod i frig y gystadleuaeth

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae tîm Dros yr Aber o Gaernarfon wedi dod i frig cystadleuaeth y Talwrn BBC Radio Cymru eleni.

Marged Tudur, enillydd categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn eleni, Iwan Rhys, Rhys Iorwerth, a Carwyn Eckley yw aelodau’r tîm Talwrn.

Ymhlith y cyfansoddiadau buddugol oedd Hir-a-thoddaid gan Carwyn Eckley ynglŷn ag ymgyrch y pêl-droediwr Marcus Rashford yn erbyn tlodi bwyd a thelyneg gan Marged Tudur.

Roedd y tîm yn wynebu tîm Talwrn Beirdd Myrddin o Gaerfyrddin.

Gallwch wrando’n ôl ar yr ornest drwy ddilyn y ddolen hon.