Erthygl bisâr am “fynydd” Twthill!

Pwy sydd am wahodd y gohebydd i Ben Twthill?

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae erthgyl yn y North Wales Live wedi cyfeirio at Ben Twthill fel “un o fynyddoedd lleiaf Cymru.”

Bryn ym mhen uchaf Twthill yw Ben Twthill, gyda’r mynediad ar stryd Dwyrain Twthill. O Ben Twthill, mae golygfeydd o’r dref o lannau’r Fenai at stad Ysgubor Goch a Maesincla, yn ogystal â golygfeydd o fynyddoedd yr Eifl, a rhai o fynyddoedd Eryri.

Ond mae’r gohebydd Penny Fray wedi cyfeirio at Ben Twthill fel “un o fynyddoedd lleiaf Cymru”, sydd “mewn gwirionedd, yn ddim mwy na bryn.”

Mae’r erthygl yn un bisâr i ddweud y lleiaf, yn bennaf oherwydd bod neb, yn enwedig pobol Twthill, yn honni mai mynydd ydi Ben Twthill. Fel mae sawl un ar grŵp Facebook Twthill wedi nodi, mae cliw i’w gael yn yr enw ei hun. Mae’r enw Twthill ei hun yn tarddu o air Eingl Sacsonaidd am wylfa, neu lookout hill. Mae iddo’r un tarddiad ag ardal Toothill Fort yn Hampshire, Stryd Tuttle yn Wrecsam, a phentref Tutshill yn Swydd Gaerloyw.

Ar ôl honni bod Ben Twthill yn fynydd, mae’r goheydd yn dweud;

“Os fuoch chi ’rioed i Ben Twthill, mi fyddwch chi’n ymwybodol mai bryncyn creigiog gyda llwybr llydan yn esgyn llethr ysgafn ydi o – byddai llawer o bobl leol yn dweud nad yw, mewn gwirionedd, yn ddim mwy na bryn.”

Mae North Wales Live yn cyfeirio at ddarn o The Handbook Exploring Wales, Volume 3, sy’n cyfeirio at Ben Twthill fel “the smallest mountain in Wales!”

Yn ôl y National Geographic, mae mynydd yn cael ei ddiffinio fel “tirffurf sy’n codi o leiaf 1,000 troedfedd (300 metr) neu fwy uwchlaw’r ardal sy’n ei amgylchynu.” Mae Ben Twthill yn 60m (197 troedfedd.)

Mae Ben Twthill, wrth gwrs, yn ardal o bwysigrwydd hanesyddol arwyddocaol. Yma y digwyddodd Brwydr Tuthill yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1401, ac yma hefyd y digwyddodd un o frwydrau Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Ar Ben Twthill mae croes i gofio am y gwŷr lleol a fu farw yn Rhyfel y Boer.

Mae sôn yr arferai ymwelwyr i’r ardal fwynhau’r olygfa oddi ar Ben Twthill drwy ysbienddrych, ac yn 1905 cwynodd un o’r trigolion lleol mewn llythyr i’r North Wales Express bod yr ymwelwyr gwyliadwrus wedi difetha sawl un o’i deithiau ar y Fenai gyda merch!

Gallwch ddarllen yr erthygl bisâr drwy ddilyn y ddolen hon.