Ffordd yng Nghaernarfon ar y newyddion

Mae’r ffordd a godwyd yn y 1970au yn y penawdau

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Codwyd Ffordd Ryddhau Fewnol Caernarfon (neu’r Inner Relief Road yn lleol) yn y 1970au.

Pan godwyd y ffordd, fe wahanwyd cymuned Twthill oddi wrth weddill y dref, ac mae’r mater yn parhau’n un cynhennus hyd y dydd. 

Ond gan fod ffordd osgoi newydd ar fin cael ei chwblhau, mae dyfodol y lôn yn ansicr.

Mae Cyngor Gwynedd wedi eu cyhoeddi y byddant yn ymgynghori gyda phobol y dref ar ddyfodol y lôn.

Golygodd codi’r lôn ddinistrio rhannau helaeth o Twthill.

Mae’r cyngor yn bwriad ymgynghori yn yr Hydref.