Mae Clwb Pêl-droed Caernarfon yn gofyn i’r gymuned am help i dacluso’r Oval y penwythnos hwn.
Yn ddelfrydol, byddai trigolion lleol yn dod yno rhwng 9 a 12 o’r gloch, ond mae “unrhyw oriau fedra chi sbario” hefyd yn ddigonol.
Chwilio am cyrff i helpu gal tidy up rownd Yr Oval bora Sad, 9am – 12pm, ne unruw oria fedra chi sbario..Diolch!!????
Looking for bodies to help with a general tidy up of The Oval Saturday morning, 9am – 12pm or any amount of hours you can spare..Thank you!!???? #Unclwb pic.twitter.com/nefOznzixi
— ?Cofi Army? (@Cofiarmy) July 14, 2021
Nid dyma’r tro cyntaf i’r clwb ofyn i’r gymuned am help gyda gwaith ar yr Oval, a gyda chefnogwyr gystal â’r Cofi Army, mae’r ymateb wastad wedi bod yn gadarnhaol.
Mae paratoadau ar gyfer y tymor newydd wedi bod ar y gweill ers tro, gyda gwaith yn cael ei wneud ar y cae, y rheiliau o amgylch y cae, a’r stand sefyll.
Ac mae’r Cofis eisoes wedi chwarae sawl gêm gyfeillgar, gyda disgwyl i ragor gael eu trefnu.
Bydd tîm Huw Griffiths yn herio Hwlffordd ar yr Oval yn eu gêm gyntaf o’r tymor ar 14 Awst, a bydd y gêm honno yn fyw ar Sgorio.
? Cyhoeddi gemau byw Sgorio.
⚽️ Sgorio returns this August.
? #JDCymruPremier live fixtures. pic.twitter.com/IFuo6vvnXU
— ⚽ Sgorio (@sgorio) July 16, 2021