63 o gleifion â COVID-19 yn Ysbyty Gwynedd

Mae Ysbyty Gwynedd yn gofalu am 63 o gleifion sydd â COVID-19, ac mae 36 o’r rhain wedi ei ddal yn yr ysbyty.

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mewn datganiad mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau bod Ysbyty Gwynedd yn gofalu am 63 o gleifion sydd â COVID-19, a bod 36 o’r rhain wedi ei ddal yn yr ysbyty.

Cadarnhaodd y Bwrdd Iechyd hefyd bod y rhan fwyaf o lawdriniaethau a oedd wedi’u cynllunio wedi cael eu gohirio yn yr ysbyty ar hyn o bryd, ond bod nifer fach o achosion dydd brys yn parhau yr wythnos hon.

“Rydym yn parhau i ofyn am gymorth y cyhoedd i reoli lledaeniad COVID-19 yn ein cymunedau. Mae gan Ynys Môn (ar 78.5 am bob 100,000) a Gwynedd (ar 71.5 am bob 100,000) rai o’r cyfraddau amlder uchaf am COVID-19 yng Nghymru dros y saith niwrnod diwethaf, sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol (43.9 am bob 100,000).

“Rydym yn cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr ar safle ein hysbyty; rydym yn gofyn i chi sicrhau y bydd rhywun ond yn mynd gyda chi i’ch apwyntiad os oes angen. Os na allwch ddod i apwyntiad, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.

“Parhewch i ddilyn yr arweiniad iechyd cyhoeddus ynghylch golchi dwylo’n rheolaidd a dilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol er mwyn helpu i atal rhag trosglwyddo’r firws.”