Mae disgwyl i gampfeydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio gael eu blaenoriaethu a bod ymhlith y cyfleusterau cymunedol cyntaf i ail-agor, wedi’r cyfnod clo.
Daw hynny, wedi i’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan ddatgan yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg yr wythnos ddiwethaf eu bod wedi bod yn “gyndyn iawn” i’w cau ac yn awyddus i’w hagor cyn gynted a bod modd.
Er hynny, roeddent ymhlith yr olaf i ailagor yn dilyn y clo mawr y llynedd.
Ym marn Jamie McDaid o Gaernarfon, sydd wrth ei fodd yn cadw’n heini, byddai cau am gyfnod hirach nag sydd rhaid yn cael effaith niweidiol ar iechyd corfforol a lles meddyliol y cyhoedd.
“Dwi’n teimlo dros y bobl hŷn”
“Ella bod o ddim yn big deal i rai pobol ond os wyt ti’n berson sy’n mynd i gym yn aml, mae’n anodd,” meddai Jamie, sydd hefyd yn gweithio fel Swyddog Byw’n Iach yn Arfon.
“Dwi’n cael gymaint o negeseuon bob wythnos yn gofyn pryd mae’r gym yn ailagor a bod pobol yn methu bob dim sy’n mynd ymlaen.
“Mae pawb yn teimlo bod o’n anodd cael routine ond mae’n rhaid i ni adaptio
“Barn bersonol fi ydi bod y gym yn lle i bobl fynd i gyrraedd eu goals – gweithio ar chdi dy hun heb unrhyw distractions a dim competition – dim ond i neud yn well na be odda chdi’n neud y diwrnod cynt.
Eglurai ei fod yn cynnal sesiynau Zoom drwy ei waith ond ei fod yn pryderu dros y rhai sydd ddim bob amser yn gallu mynychu.
“Dwi’n teimlo dros y bobl hŷn sydd fel arfer yn dod i’r sesiynau,” meddai, “er bod hyn yn cadw nhw’n saff – oedden nhw’n edrych ymlaen gymaint i gael dod i’r sesiynau yn y ganolfan.
“Gobeithio bydd y gyms yn agor yn ôl yn fuan – mewn ffordd sy’n saff i bawb.”