Gwylaidd, deallus, annwyl – teyrnged i Mirain Llwyd Owen 

Teyrnged gan Gwion Hallam, ffrind a chadeirydd Yes Cymru Caernarfon.

gan Gwion R Hallam

Wrth glywed am farwolaeth Mirain Llwyd Owen rai dwrnodau yn ôl mi gafodd yna bobl drwy Gymru gyfan eu hysgwyd i’r byw. Ar y cyfryngau cymdeithasol a thudalennau newyddion y we mae yna bobl o bob cwr wedi bod yn rhannu eu galar a dweud sut y gwnaeth Mirain gyffwrdd a chyfoethogi eu bywydau. O’i hadnabod dwi’n siwr y byddai Mirain ei hun yn llawn rhyfeddod gwylaidd o ddeall iddi fod ar raglen newyddion y BBC y diwrnod y buodd hi farw. Nid un i chwilio am sylw oedd Mirain. Yn wir, mewn cwmni mawr mi fyddai’n fwy na hapus i aros ar y cyrion o’r golwg. Ond o achos eu doniau creadigol, a’i hysfa i newid a gwella dyfodol ein gwlad, roedd yn anochel ei bod wedi dylanwadu ar lawer o bobl a dod yn annwyl i gymaint ohonynt.

 

Mi wynebodd Mirain y cancr gydag urddas a dewrder arbennig. O siarad gyda Tim ei chymar ddoe mi ddywedodd nad oedd unwaith wedi clywed Mirain yn cwyno am ei sefyllfa neu’n mynd i deimlo’n hunan dosturiol. Fyddai hi byth yn gofyn ‘pam hi?’ meddai Tim : gofyn ‘pam ddim hi?’ fyddai Mirain. Ac er mai dim ond 47 oed oedd Mirain yn ein gadael roedd wedi byw ei bywyd i’r eithaf. Mi gyflawnodd hi gymaint o ran ei gwaith a’i gyrfa ac o ran ei hangerdd dros ffrindiau a Chymru.

Fel actores ac awdur, creu straeon gafaelgar ar gryfer dramâu teledu oedd ei champ. Hi wrth gwrs wnaeth actio Delyth Haf, prif gymeriad y dramâu cyfres arloesol Tydi Bywyd yn Boen a Tydi Coleg yn Grêt. Cafodd miloedd o Gymry ifanc eu hysbrydoli gan y cymeriad credadwy a gonest. Yr awdur Gwenno Hywyn wnaeth greu’r cymeriad ar bapur ond Mirain ddaeth â hi’n fyw ar y sgrin gyda’i chyfuniad o ddireidi ac anwyldeb yn ei gwneud yn berffaith ar gyfer y rhan. Aeth Mirain ymlaen i fod yn awdur llwyddiannus ei hun ar gyfresi poblogaidd a dylanwadol fel Tipyn o Stad ac Amdani. Roedd yn un o awduron mwyaf profiadol Pobol y Cwm a chynhyrchwyr y gyfres wedi talu teyrngedau’n barod i’w hagwedd broffesiynol a’i gwreiddioldeb wrth ysgrifennu.

Yn berson deallus, ac yn un a oedd yn meddu ar syniad clir o gyfiawnder, newid stori Cymru oedd dymuniad pennaf Mirain. Yn credu’n siwr fod gan Gymru’r hawl a’r gallu i reoli ei hun fe ymunodd â Yes Cymru’n gynnar iawn. Daeth Mirain yn aelod rhif 24, cyn bod y mwyfarif wedi clywed am y mudiad. Yn Yes Cymru Caernarfon roedd cyfraniad Mirain a Tim yn allweddol wrth gychwyn y gangen. Byddai Mirain a Tim yn mynychu cyfarfodydd yn gyson gan gynnig syniadau a help ymarferol o hyd. Byddai Mirain wastad yn meddwl am sut i gael pethau i weithio, a sut y gallai hi a Tim helpu. Nid dim ond angerdd a delfryd oedd yn y ddau i weld Cymru’n dod yn wlad annibynnol normal a rhydd, ond egni a phendantrwydd i weld sut allent helpu i sicrhau fod hynny’n digwydd. Cofiaf Mirain yn cynnig dod gyda dau neu dri ohonom drwy storm a glaw ofnadwy i lawr i Borth Tywyn i gyfarfod digon tymhestlog o Yes Cymru. Roedd sicrwydd tawel Mirain yn werthfawr iawn y diwrnod hwnnw.

Enghraifft arall o’i chyfraniad i achos Cymru oedd y baneri arbennig a gafodd eu hongian o falconi castell Caernarfon ar ddiwedd gorymdaith fawr 2019. Mae yna nifer o atgofion sy’n aros o’r orymdaith dros annibyniaeth. Ond y ddelwedd a’r atgof cryfa i lawer yw honno o’r baneri hir yn cael eu hongian o’r balconi ‘brenhinol’ ar ddiwedd yr orymdaith. O’r union falconi lle y safodd teulu brenhinol Lloegr yn llwyfan bellach i faneri newydd yn datgan Annibyniaeth i Gymru. Nest, ei chwaer wnaeth greu’r baneri trawiadol. Mirain wnaeth gynnig a threfnu’r peth, a thalu am y defnydd dwi’n amau hefyd, nid y byddai wedi bod eisiau diolch na sôn am hynny. Tim wnaeth eu cario i mewn i’r castell a’u hongian i bawb gael eu gweld.

Roedd Mirain ar yr ormydaith hefyd. Er yn flinedig ac yng nghanol ei thriniaeth ar y pryd roedd wedi mynnu dod, a gydag Alwena ei mam a gweddill y teulu wedi ymuno gyda’r miloedd yno. Cofiaf eistedd gyda Tim a Mirain ar y diwedd yn nhafarn Y Castell. Dyma ryfeddu at yr holl bobl oedd wedi gweld y baneri. A dyma rhywun yn dweud rhywbeth am newid enw’r balconi ‘brenhinol’ i fod yn falconi Annibyniaeth rwan. A dyma ni’n meddwl am Gerallt ei thad. Gerallt Lloyd Owen y bardd a oedd wedi codi ei lais mor ddisglair yn erbyn anghyfiawnder llywodraeth Prydain. Dyma ddweud pa mor falch y byddai o hefyd wedi bod o weld y baneri.

Wrth sôn am Mirain, mae Tim wedi bod yn rhan annatod o’r atgofion. I mi mae’n amhosib meddwl am yr un heb y llall. Tim oedd ei chariad a’i ffrind pennaf: ers eu dyddiau’n byw yma’n Y Felinheli pan oedd eu cartref yn llawn hwyl a sgwrs, i’r cyfnod bendigedig a gafodd y ddau yng Nghae Athro wedyn. Byw i’w gilydd am wn i y mae pob cwpwl cariadus sydd wedi dewis bod gyda’i gilydd, ond rhywsut roedd hynny’n arbennig o amlwg ym mherthynas y ddau yma.

Wrth golli Mirain mae nifer ohonom wedi colli ffrind annwyl iawn. Mae Cymru wedi colli ffrind hefyd. Awn ymlaen i ymgyrchu dros Gymru rydd gyda Mirain i’n hysbrydoli. Ond mae’n cydymdeimladau a’n meddyliau dyfnaf gyda ei theulu agosaf; gydag Alwena ei mam, ei brawd Bedwyr a’i chwaer Nest. Fel ffrindiau, a chyd-ymgyrchwyr, mae Tim yn ein calonnau o hyd.