Kieffer Moore wrth Caffi Maes!

Mae’r ddraig o graig yn un o 26 ar draws Cymru

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen
203070000_494055078521188

Diolch i Catrin Llewelyn am y llun

Mae’r dreigiau wedi cael eu gosod ar draws Cymru i gynrychioli aelodau carfan Cymru yng nghystadleuaeth Euro 2020.

Fe’u gelwir yn DreigiauCymru, ac mae 26 wedi eu lleoli ar safleoedd Cadw ar draws Cymru.

Mae gan bob chwaraewr sy’n cynrychioli Cymru yn y twrnamaint ddraig i’w cynrychioli ger castell neu safle hanesyddol ledled y wlad. Gall cefnogwyr ymweld â’r dreigiau a chasglu sticeri mewn llyfr digidol.

Mae Kieffer Moore yn gymwys i chwarae i dîm cenedlaethol Cymru oherwydd bod ei daid yn hanu o Lanrug.