Mae Carys Mair Bradley-Roberts wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth y fedal ddrama Eisteddfod yr Urdd 2021.
Gydol yr wythnos hon mae Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi enillwyr prif wobrau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020. Cyflwynwyd y cyfansoddiadau ddechrau Mawrth 2020, ond erbyn diwedd y mis roedd y wlad mewn cyfnod clo, ac roedd yr Eisteddfod wedi ei gohirio.
Er bod Carys yn byw yng Nghaerdydd bellach, mae’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol, ac mae’n gyn-ddisgybl Ysgol Syr Hugh Owen. Ar ôl gadael Ysgol Syr Hugh, aeth yn ei blaen i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.
Mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, bydd y tri a ddaeth i’r brig yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yng Nghwrs Olwen, penwythnos o weithdai ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Miriam Elin Sautin o Lanbedrog oedd enillydd y Fedal Ddrama.