Llwyddiant ysgubol i’r Cofis yng Nghaer

Tîm rygbi merched Caernarfon yn ennill pob un o’u gemau yn nhwrnament rygbi saith bob ochr Caer.

Lowri Wynn
gan Lowri Wynn
Chwaraewyr : Molly Kelly, Rhodd-Alaw Parry, Siwan Holloway, Bethan Davies, Iona Evans, Molly Shuttleworth, Morfudd Ifans, Teleri Wyn Davies, Elen Evans, Hollie Bawden, Tracy Davies, Connie Beardsley, Alicia Calton, Natalie Walsh. 
Rheolwyr : Non Meleri Roberts, Katelyn O’Donnell

Chwaraewyr : Molly Kelly, Rhodd-Alaw Parry, Siwan Holloway, Bethan Davies, Iona Evans, Molly Shuttleworth, Morfudd Ifans, Teleri Wyn Davies, Elen Evans, Hollie Bawden, Tracy Davies, Connie Beardsley, Alicia Calton, Natalie Walsh. 
Rheolwyr : Non Meleri Roberts, Katelyn O’Donnell

Y tîm buddugol!

Mae hi wedi bod yn gyfnod hir heb rygbi i dîm merched Caernarfon, a’r gêm ddiwethaf iddynt chwarae nôl ym Mawrth 2020 sy’n teimlo fel oes yn ôl! Curo oedd eu hanes bryd hynny yn erbyn Y Piod Pinc, â buddugoliaeth gyfforddus 127-0 i’r Cofis.

Felly, oddeutu 17 mis yn ddiweddarach, roedd hi’n hen bryd i dynnu’r llwch a’r gwe pry cop oddi ar y ‘sgidiau rygbi, rinsio’r gumshield mewn dŵr poeth a thyrchu am y deep heat o waelod y cwpwrdd er mwyn ail ymweld â’r bêl hirgron.

Ond er mor gyffrous oedd y genod yn teimlo wrth gael dychwelyd i’r cae, dyma brawf eithriadol i’w lefelau ffitrwydd am mai twrnament rygbi saith bob ochr oedd mewn golwg ar y seithfed o Awst, gêm nad ydy’r Cofis wedi arfer ei chwarae mewn gwirionedd! Ond, er mawr syndod iddynt, cafodd y rhan fwyaf o’r gemau eu hennill yn gymharol hawdd.

Â’r gic gyntaf am 9:30yb, rhaid oedd codi cyn cŵn (a chwaraewyr rygbi!) Caer i deithio i’r Dwyrain, a chynhesu i fyny cyn wynebu’r gwrthwynebwyr cyntaf sef Ponteland Playgirls. Yn dilyn cyfuniad o waith tîm da, cicio cywrain Bethan Davies a rycio didrugaredd Morfudd Ifans a Natalie Walsh roedd y fuddugoliaeth yn saff 48 i 0.

Yna, gêm agosa’r dydd yn erbyn Sale 1861. Mae ambell aelod o dîm Caernarfon yn chwarae i Sale Sharks (Molly Kelly, Teleri Davies, Alicia Calton, Hollie Bawden) felly roeddent yn ymwybodol gêm mor gystadleuol fyddai hi. Roedd hi’n agos iawn ar yr hanner, ond wedi’r egwyl llwyddodd Caernarfon i fynd fymryn ar y blaen, a diolch i redeg chwim Rhodd-Alaw Parry, ac ochrgamu medrus Connie Beardsley y sgôr terfynol oedd 19-7 i Gaernarfon.

Gêm anodd arall i ddilyn yn erbyn Barnsley, ond Iona Evans yn llwyddo i ddod o hyd i’r gwagle a Molly Kelly yno’n gefnogaeth gyson. Yna’n dilyn sawl rhediad cryf a phenderfynol gan Hollie Bawden, Alica Calton yn ffugio er mwyn sgorio o dan y pyst. Y sgorfwrdd ddim yn adlewyrchu gêm mor agos oedd hi mewn gwirionedd, a’r sgôr ar y chwiban yn 26-5.

Un gêm arall ar ôl i sicrhau eu lle ar frig y tabl; a llwyddodd Caernarfon i ennill y gêm honno yn gymharol gyfforddus 36-0 yn erbyn Bury Ladies. Siwan Holloway yn tynnu’r amddiffyn i mewn, Teleri Wyn Davies yn lledu’r bêl yn gyflym, a Tracy Davies yn barod i fanteisio ar yr asgell.

Yn dilyn y fuddugoliaeth honno felly, sicrhawyd eu lle yn y ffeinal yn erbyn Disdsbury. Cafwyd gêm gystadleuol tu hwnt, â’r ddau dîm yn awchu i gipio’r brif wobr. Roedd gwaith amddiffynnol gwych gan Natalie Walsh, ac ambell i ryngipiad nodweddiadol gan Molly Shuttleworth. Ond mae un foment yn aros yn y cof sef gweld y cyn asgellwraig ryngwladol Elen Evans (oedd wedi dod allan o’i hymddeoliad ar gyfer yr achlysur!) yn rhedeg o’i hanner ei hun er mwyn sgorio. Y fuddugoliaeth yn saff felly, a’r Cofis yn bencampwyr twrnament 7 bob ochr Caer 2021; y sgôr terfynol, 22-7 i Gaernarfon.

Mi fydd y tymor 15 bob ochr yn ail ddechrau mis Medi, a’r gemau ar b’nawniau Sul am 14:30 fel y canlyn ;

5/9
Caernarfon v Abergele (gêm gartref)

12/9
Caergybi v Caernarfon (oddi cartref)

19/9
Caernarfon v Llangefni (gêm gartref)

3/10

Caernarfon v Caergybi (gêm gartref)

17/10

Abergele v Caernarfon (oddi cartref)

24/10

Llangefni v Caernarfon (oddi cartref)


Croeso i bawb ddod i’w gwylio a’u cefnogi ar gae’r Morfa!