Marged Tudur ar restr fer Llyfr y Flwyddyn

Mae cyfrol y bardd wedi cyrraedd y rhestr fer

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, ac mae awdur o Gaernarfon ymhlith y ’sgwennwyr llwyddiannus.

Cafodd enwau’r 12 llyfr Cymraeg eu datgelu am y tro cyntaf ar raglen Stiwdio BBC Radio Cymru heno.

Mae’r gwobrau yn cael eu rhoi o fewn pedwar categori gwahanol sef Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc.

Mae Mynd gan Marged Tudur ar restr fer y categori Barddoniaeth.

Y beirniaid eleni yw Guto Dafydd; y cyn Fardd Plant Cymru Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwraig Esyllt Sears.

Mae Marged bellach yn byw yng Nghaernarfon.

Gwnaeth gyfweliad am ei chyfrol gyda Caernarfon360. Cliciwch yma i’w ddarllen.