Mentro Gyda’n Gilydd : Galw ar fusnesau Caernarfon

Mae Mentro Gyda’n Gilydd yn brosiect cenedlaethol trwy Gymru lle mae criw o wirfoddolwyr yn creu fideos o beth i’w disgwyl wrth ddechrau ail ymweld â lleoliadau.

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts
Canllaw tynnu lluniau Cam 1 a 2
Canllaw tynnu lluniau cam 3 a 4

Gyda llawer o bobl mewn cymdeithas heb fod mewn mannau cyhoeddus ers cyn y cyfnod clo cyntaf mae llawer iawn yn bryderus am ail ddechrau ymweld â’u hoff gaffi neu fwyty neu siop pan fydd cyfyngiadau yn caniatáu. Bwriad y prosiect yw helpu unigolion i fedru ail ymweld â lleoliadau ac i leihau’r pryder.

Yn wreiddiol, bwriad y prosiect oedd creu’r fideos ar gyfer unigolion sydd yn byw gyda Dementia ond rydym yn deall erbyn hyn y gall y fideos fod o gymorth i amrywiaeth o unigolion.

Fel ymateb i hyn rydym yn mynd ati i lunio cyfres o fideos syml ar ffurf storyboard sydd yn dangos y newidiadau mewn mannau cyhoeddus. Mae ein gwirfoddolwyr wedi derbyn hyfforddiant gan ‘Cymunedau Digidol Cymru’ ar gyfer creu’r fideos ond yn amlwg oherwydd y cyfyngiadau nid oes modd i ni fynd ati i fynychu lleoliadau i gael lluniau – dyna pam rydym yn galw arnoch chi, fusnesau Caernarfon!

Mae modd gweld rhai o’r fideos sydd wedi’i gwneud fan hyn:

Mentro Gyda’n gilydd Gwynedd

Mentro Gyda’n Gilydd Môn

Beth sydd angen i chi wneud?

Y cyfan rydym ni eisiau ydi oddeutu 5 llun o fannau yn eich busnesau sydd yn dangos unrhyw newidiadau e.e. systemau unffordd, sgriniau gwarchod, mannau diheintio. Bydd ein gwirfoddolwyr ni yn mynd ati i roi’r lluniau at ei gilydd ac yn darparu troslais i’r lluniau. Byddwn hefyd yn gofyn am eich caniatâd i gael defnyddio’r lluniau. Bydd y fideos hefyd ar gael i chi fel busnes eu defnyddio felly helpwch ni i’ch helpu chi!

Os ydych yn fusnes neu yn fan cyhoeddus yng Nghaernarfon mae croeso i chi fy ebostio ar mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru neu fy ffonio ar 01286 682818 i holi unrhyw gwestiynau neu i ddanfon eich lluniau!