Nwyddau mislif am ddim trwy Lyfrgelloedd Gwynedd

Dyma sut mae Llyfrgelloedd Gwynedd yn ceisio mynd i’r afael â thlodi mislif

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts

Mae yna lawer mwy i’w gael trwy eich Gwasanaeth Llyfrgell na llyfrau!

 

Mae Llyfrgelloedd yn hybiau cymunedol sy’n darparu llu o wasanaethau  a gwybodaeth, ac yn awr, o ddechrau mis Tachwedd ymlaen, bydd modd i unrhyw un sydd eu hangen, allu cael gafael ar nwyddau mislif am ddim trwy Lyfrgelloedd Gwynedd.

 

Mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Addysg Cyngor Gwynedd, bydd Llyfrgelloedd Gwynedd yn lleoliadau dosbarthu nwyddau mislif am ddim i drigolion Gwynedd fel modd o daclo tlodi mislif a hefyd i godi ymwybyddiaeth o fuddiannau amgylcheddol cynnyrch y gellir ei ail-ddefnyddio

 

Bydd nwyddau mislif eco-gyfeillgar am ddim ar gael yn nhoiledau deg Llyfrgell, sef Llyfrgelloedd Caernarfon, Bangor, Penygroes, Bethesda, Nefyn, Neuadd Dwyfor (pan fydd y Llyfrgell yno ar agor ddechrau’r flwyddyn yn dilyn prosiect adnewyddu), Blaenau Ffestiniog, Tywyn, Abermaw a Dolgellau. Bydd croeso i unrhyw un sydd angen nwyddau mislif helpu eu hunain.

 

Ffordd arall i gael nwyddau mislif am ddim, yn arbennig felly nwyddau mislif y gellir eu hail-ddefnyddio, yw trwy eu harchebu ar-lein neu gysylltu gyda ni i’w harchebu. Mae’n bwysig iawn codi ymwybyddiaeth am nwyddau mislif ecolegol gan eu bod yn y pen draw, yn well i’r blaned ac yn torri i lawr ar y gwastraff a’r gwastraff plastig sydd ar hyn o bryd yn cael ei yrru i dirlenwi.  Mae’r nwyddau hyn yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd gwahanol gellir eu trio, o gwpanau mislif i badiau y gellir eu golchi a’u hail ddefnyddio. Gan fod nifer o’r nwyddau hyn yn gallu bod yn ddrud i’w prynu,  mae ein cynllun Nwyddau Mislif am Ddim, yn cynnig ffordd dda iawn i bawb dreialu’r nwyddau hyn i weld pa rai sy’n gweithio orau iddynt hwy.

 

Mae yna ddewis o nwyddau ar gael a gallwch archebu pecyn trwy’r linc isod. Bydd y nwyddau yn eich cyrraedd wedi eu selio mewn bag papur a gallwch ddewis i gasglu’r pecyn o’ch Llyfrgell neu gallwn gludo’r pecyn i’ch cyfeiriad cartref (yn rhad ac am ddim).  Does dim rhaid i chi fod yn aelod llyfrgell i archebu’ch pecyn.

 

https://arolwg.gwynedd.llyw.cymru/index.php/663977?lang=cy

 

https://arolwg.gwynedd.llyw.cymru/index.php/663977?lang=en

 

Y nwyddau sydd gennym i’w archebu ar hyn o bryd yw:  cwpan mislif, diheintydd cwpan mislif, padiau dydd gellir eu hailddefnyddio a padiau nos y gellir eu hailddefnyddio.

 

Gallwch hefyd gysylltu gyda Llyfrgell Caernarfon ar 01286 679463 os yw’n well gennych ffonio, neu gallwch e-bostio LLCaernarfon@gwynedd.llyw.cymru

1 sylw

Marc Evans
Marc Evans

Mae hwn yn syniad gwych!

Mae’r sylwadau wedi cau.