gan
Osian Wyn Owen
Bydd rhifyn Hydref Papur Dre ar werth yn y siopau lleol o fory (Hydref 13eg) ymlaen.
Mae’r papur bro misol ar gael o’r siopau canlynol:
- Na-Nog
- Palas Print
- Spar y Maes
- Siop Malcolm, Twthill
- Min y Nant
- Siop Hendre
- Garej Texaco.
Cwmni Da sy’n noddi’r papur y mis hwn, ac mae’n llawn straeon a lluniau am hynt a helynt y dre ers y rhifyn diwethaf ym mis Gorffennaf.
Ar glawr y papur mae hanes y ffordd ryddhau fewnol (neu’r inner relief road yn lleol!), a’r ymgynghoriad sydd yn cael ei gynnal i gasglu safbwyntiau’r dre am yr hyn ddylai dyfodol y lôn fod.
Ewch i’w brynu!