Mae galwadau cynyddol ymhlith gwleidyddion a pherchnogion busnes i roi blaenoriaeth i oroesiad y sector lletygarwch.
Ddoe (Chwefror 18), mae llefarydd Trysorlys Plaid Cymru, Ben Lake AS, wedi annog y Canghellor, Rishi Sunak, i ymestyn y cynllun ffyrlo a chadw’r gyfradd Terth Ar Werth is ar gyfer y sector hyd at fis Mawrth 2022.
Hefyd, mae ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngheredigion ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, Amanda Jenner, wedi ysgrifennu at y Gweinidog yr Economi Cymru, Ken Skates, i leisio pryderon.
“Dod allan ohono fo yn gryfach”
I Deborah Sagar, perchennog siop a chaffi Bonta Deli yng Nghaernarfon, byddai cynnal y gefnogaeth ariannol hwn am gyfnod estynedig yn darparu rhywfaint o sicrwydd i ddyfodol busnesau o fewn y sector.
Dywedodd hefyd y byddai’n rhoi’r cyfle a’r hyder i’r diwydiant adfer yn sgil effeithiau’r pandemig.
“Mae’r gefnogaeth yma mor bwysig,” meddai Deborah Sagar.
“… er mwyn sicrhau goroesiad busnesau ac i bobl gael y sicrwydd bod modd iddyn nhw gynnal eu staff ac i staff wybod bod ganddyn nhw swydd i ddod yn ôl iddi.
“Mae’r sector lletygarwch yn rhan mor annatod o’n cymunedau ni – rydyn ni eisiau i bawb oroesi’r cyfnod yma, a dod allan ohono fo yn gryfach ac yn fwy penderfynol nag erioed.
“Wrth gerdded o amgylch y dref, mae hi mor dawel ac mewn un ffordd mae hynny’n beth da – am fod pobol yn gwrando ac yn aros adref, ond mae o’n drist ofnadwy hefyd.
Teimla Deborah fod y diwydiant angen amser i sefydlogi yn ogystal ag adfer hyder y cyhoedd, cyn bod modd ail-edrych ar ddiwygio unrhyw gymorth ariannol.
“Mae’n hanfodol galluogi’r sector lletygarwch i ail-agor cyn gynted â phosibl – pan fod hi’n saff i wneud hynny.
“Er lles y bobl leol hefyd, byddai gallu mynd allan a chael sgwrs yn yr haul neu’r tu allan i’r dafarn yn wych,” meddai.
“Mae’r cyfnod clo diwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl.”