Mae’r amddiffynnwr Steve Evans wedi ymuno â chlwb pêl-droed Caernarfon ar gyfer tymor 2021-22.
Mae’r gŵr 42 oed yn gadael swydd hyfforddi gyda’r Seintiau Newydd, ar ôl bod gyda nhw am 12 mlynedd.
Enillodd 7 cap i Gymru rhwng 2006 a 2008, gan chwarae gyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Liechtenstein.
Fo oedd y chwaraewr cyntaf ers 1930 i gynrychioli Cymru oedd yn chwarae islaw Cynghrair Bêl-droed Lloegr, tra roedd gyda chlwb Wrecsam.
Mae ganddo brofiad hefyd o chwarae’n Uwchgynghrair Cymru, gan chwarae dros 250 o weithiau i glybiau fel Y Seintiau Newydd a Chei Conna.
“Mae ganddo lawer o brofiad a dw i’n siŵr bydd pawb sydd wedi gweld ein gemau cyfeillgar hyd yn hyn yn gwybod beth mae’n ei gynnig inni,” meddai rheolwr Caernarfon, Huw Griffiths.
“Bydd yn helpu’r chwaraewyr ifanc yn ein carfan, ac yn gwneud yn siwr bod y tîm yn gwneud beth mae’r hyfforddwyr eisiau.
“Mae pobl wedi bod yn holi fi pwy fedra gymryd lle Gareth Edwards, ac er bod Steve yn hŷn na Gaz, mae’n gyn-chwaraewr rhyngwladol a dydy chwaraewr fel hynny ddim yn dod o gwmpas yn aml.”
Mae Steve ei hun yn cytuno gyda Huw, ac yn edrych ymlaen at yr her.
“Mae’n wych chwarae pêl-droed eto mewn clwb mawr fel Caernarfon.
“Dw i wedi chwarae a hyfforddi yn erbyn y tîm ddigon o weithiau ac mae pawb yn ymwybodol o’r ‘Cofi Army’, y cefnogwyr gorau yn y gynghrair o bell.
“Mae Huw yn adeiladu carfan dda a dw i’n gobeithio gallu ychwanegu fy mhrofiad ato a helpu’r chwaraewyr ifanc hefyd.
“Dwi’n edrych ymlaen yn arw am yr her!”