Wythnos Pontio’r Cenedlaethau

Rhwng yr 8fed ar 14eg o Fawrth mae hi’n wythnos pontio’r cenedlaethau. 

Mirain Llwyd Roberts
gan Mirain Llwyd Roberts
Llun o boster codi calon gan ddisgybl Ysgol Maesincla

Mewn cymdeithas lawen iach, 

Neb rhy fawr, neb rhy fach.

                                     Llwyd o’r Bryn

Mae arwyddair Ysgol Ffridd Y Llyn, ger Y Bala yn egluro mewn cwpled syml beth yw ein gobaith ni trwy ddarparu cynlluniau a phrosiectau pontio’r cenedlaethau – bod lle i bawb mewn cymdeithas pe bynnag eu hoedran.

Rhwng yr 8fed ar 14eg o Fawrth eleni rydym yn dathlu Wythnos Pontio’r Cenedlaethau ar draws Prydain ac yn gwneud hynny eleni mewn cyfnod lle na fedrwn ddod ynghyd trwy godi ymwybyddiaeth, rhannu lluniau o brosiectau blaenorol a rhannu syniadau ynghylch sut y gallwn ni gyd chwarae ein rhan – hyd yn oed mewn cyfnod digyswllt.

Prosiectau blaenorol.

Mae swyddog llawn amser wedi bod yng Nghyngor Gwynedd ers Haf 2018 i gefnogi a threfnu prosiectau pontio’r cenedlaethau. Rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion, cartrefi gofal, mudiadau, cymunedau a hefyd cyd-weithio gyda sawl partner ar draws y sir. Roedd ein prosiectau cyn Mawrth 2020 yn rai wyneb yn wyneb ond yn amlwg roedd yn rhaid addasu a meddwl tu allan i’r bocs.

Addasu mewn cyfnod clo

Mae ymchwil yn nodi bod unigrwydd ar gynnydd ers dechrau’r cyfnod clo cyntaf ac felly yn dangos pam bod y gwaith yma yn bwysicach nag erioed. Aethpwyd ati i feddwl am sut i barhau i gysylltu cenedlaethau a lansiwyd y cynllun pen-pals ar draws y sir sydd gyda dros 100 o bartneriaid wedi’i greu a dwy ysgol leol yn nalgylch Caernarfon. Roedd dosbarth yn Ysgol y Gelli yn ysgrifennu llythyrau at bobl hŷn ar draws y sir ac Ysgol Maesincla wedi mynd ati i wneud cardiau a phosteri codi calon ar gyfer cartrefi Marbryn a Willow Hall. Mae’r prosiectau hyn wedi dangos pwysigrwydd i barhau i wneud y cysylltiadau mewn cyfnod mor heriol, dyma fideo yn trafod rhai o’n prosiectau cyn y Nadolig.

Beth fedrith pawb wneud i bontio’r cenedlaethau?

Dyma ambell syniad i blant:

  • Ewch ati i wneud cerdyn codi calon i gartrefi gofal lleol neu i gymdogion hŷn sy’n byw ei hunain
  • Ewch ati i wneud bwydydd adar a’i roi i gymydog sy’n byw ei hunain neu eich Nain neu’ch Taid ac yna trefnwch sgwrs ffôn wythnosol i drafod pa adar sy’n ymweld â’u gardd (Bwydydd Adar)

Rydym hefyd wedi comisiynu stori gan Cant a Mil o Freuddwydion sydd yn stori wych i’w rhannu â plant oedran cynradd. Darllenwch fwy am Ffon Gerdded Ffantastig Taid fan hyn. Rydym wedi gwneud gwersi ar gyfer ysgolion hefyd i ddathlu’r wythnos yma a mae modd cysylltu i’w derbyn!

Os ydych yn fudiad, ysgol neu yn unrhyw un o ddiddordeb mae mwy na chroeso ichi gysylltu am drafodaeth a gweld beth fedrwn ni wneud yn eich ardal chi!

Cofiwch ein dilyn hefyd ar Twitter @cenedlaethau a hoffi ein tudalen Facebook @pontiorcenedlaethau i glywed mwy am ein prosiectau. Mae modd fy ebostio ar mirainllwydroberts@gwynedd.llyw.cymru hefyd.