Agor Beics Antur yn swyddogol – o’r diwedd!

Mae’r stori’n dechrau 8 mlynedd yn ôl

Osian Wyn Owen
gan Osian Wyn Owen

Bydd nifer o drigolion Dre yn ymwybodol o Beics Antur erbyn hyn, ond oherwydd Covid, dim ond rŵan ydan ni’n cael cyfle i gynnal agoriad swyddogol!

I’r rhai nad ydyn nhw’n gyfarwydd â’r enw, siop llogi a thrwsio beics yng Nghaernarfon ydi Beics Antur. Fel gwedill busnesau Antur Waunfawr, rydan ni’n cynnig cyflogaeth i oedolion ag anableddau dysgu.

Yn 2014 trosglwyddwyd perchnogaeth Beics Menai i Antur Waunfawr. Bryd hynny, roedd y siop wedi’i lleoli yn yr hen Gei Llechi, ond mi ddaeth yn amlwg yn gynnar iawn yn y broses y byddai angen mwy o le.

Yn 2017, cytunodd Bwrdd Ymddiriedolwyr Antur i fuddsoddi yn y weledigaeth i agor siop feics yng nghanol Dre.

Mae’r siop bellach wedi’i hagor ym Mhorth yr Aur, rhan rhestredig Gradd I o waliau canoloesol Caernarfon. Porth y Gorllewin oedd yr enw gwreiddiol arno, a hon oedd y brif fynedfa i’r dref o gyfeiriad y môr.

Cam cyntaf y prosiect oedd prynu’r safle, ymgynghori â’r gymuned a sicrhau grantiau yn y broses.

Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2020, gwta 3 mis cyn Clo Mawr Covid ym mis Mawrth y flwyddyn honno. Wynebwyd sawl her, yn enwedig am fod rhaid gweithio o fewn hen adeilad. Fodd bynnag, cwblhawyd y gwaith yn haf 2021.

Ac o’r diwedd, mi ydan ni wedi gallu cynnal agoriad swyddogol, a hynny yng nghwmni Adam Hitchings. Adam yw Rheolwr Datblygu Cymru ar gyfer y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol. Mae’r gronfa’n cefnogi cymunedau ledled y DU i ddod o hyd i ffyrdd o roi bywyd newydd i hen adeiladau.

Mae’r agoriad swyddogol hwn yn garreg filltir bwysig i Antur Waunfawr.

Mi rydan ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o ddatblygu ein gwaith er mwyn gwireddu gweledigaeth ein sylfaenydd R. Gwynn Davies yn 1984– ‘Datblygu’r Unigolyn a’r Gymuned i’w llawn botensial.’

Erbyn hyn, mae Beics Antur yn cynnig dewis helaeth o feiciau i oedolion a phlant, i’w gwerthu a’u llogi. Mae gennym hefyd fflyd o feiciau addasiedig i’w llogi.

Mi rydan ni hefyd wedi datblygu’r adeilad yn ganolfan Iechyd a Lles, sy’n cynnwys llofft llesiant sydd ar gael i’w llogi ar gyfer gweithgareddau iechyd a lles, ac ystafell aml-synhwyraidd.

Mae cymuned Caernarfon wedi bod yn gyfaill ffyddlon i Antur Waunfawr ar hyd y degawdau, ac mae’n wych gallu cyfrannu fymryn at fwrlwm canol y dre.