Mae Linette yn paratoi ar gyfer agor siop Clyd, nos Wener yma ac mewn sgwrs mae hi yn egluro ’chydig o hanes cyrraedd y pwynt o agor siop yn ogystal â gwerthu ar lein.
Dywedodd Linette ’mae wedi bod yn siwrne hir i gyrraedd y pwynt yma, wythnos ar ôl derbyn goriadau i’r siop ym mis Tachwedd, cawsom y newyddion ofnadwy fod gan Ifan, ein mab, tiwmors ar ei arenau. Mae’n gwneud yn dda ac yn parhau i gael triniaeth ar hun o bryd yn wythnosol yn Lerpwl’
Pam agor Siop yng Nghaernarfon?
‘I mi does unman yn debyg i Gaernarfon. Mae’n dref llawn bwrlwm a gwastad rhywun i godi llaw arnynt neu gael sgwrs. Mae na gymuned yn Gaernarfon o pobl sydd isio cefnogi busnesau bach, a hun yn amlwg o’r holl busnesau bach llwyddiannus sydd yn y dref. Yr olygfa wrth i chi gamu allan o’r siop tuag at y cei a’r castell ydi’r ‘icing on the cake’ i mi’
Ac yn olaf, pam fod siopio yn lleol yn bwysig?
‘Mae siopa’n lleol yn bwysig iawn i mi a dwi di gwneud ‘pledge’ i siopa’n fach ers sawl blwyddyn bellach mi mae’r dewis o cynnyrch yn llawer iawn gwell, ac mae’n bosib dod o hyd i drysorau bach. Ond yn fwy na hun ’ma siopa’n fach yn golygu cefnogi teuluoedd, pobl leol a’r gymuned. Yn aml iawn mae’n golygu cefnogi breuddwyd rhywun hefyd!’
Pob lwc i siop Clyd a cofiwch alw draw