Clwb Pêl-droed Caernarfon fydd yn buddio wrth i Gei Conna cael dedfryd o 18 pwynt ar ôl cael eu ffeindio yn euog o chwarae chwaraewr anghymwys yn gemau JD Cymru Premier yn nhymor 2021/22.
Yn wreiddiol fe orffennodd Caernarfon yn y 7fed safle tri phwynt tu ôl i’r Nomadiaid. Ar ôl penderfyniad Cymdeithas Pêl-droed Cymru heddiw, fe fydd y Cofis yn cymryd eu lle yn y chwech uchaf am y pedwerydd tymor yn olynol.
Gyda 31 pwynt hyd yn hyn, dim ond 5 pwynt tu ôl i Benybont yn yr ail safle ydi Caernarfon felly hefo rhediad da yn yr ail gyfnod o’r tymor, tydi hi ddim yn amhosib iddynt fedru gorffen y ddau uchaf a sicrhau lle yn Ewrop.
Fe welwyd gem fythgofiadwy ar Yr Oval ddiwedd tymor diwethaf yn y gemau ail-gyfle, yn anffodus colli i’r Drenewydd oedd hanes y Cofis y diwrnod hwnnw am hynny am le yn Ewrop. Gyda Chymru yn colli lle yn Ewrop tymor yma, fe fydd enillydd y gemau ail gyfle yn sicrhau eu lle yng Nghwpan Her Yr Alban gyda’r pencampwyr.
Beth bynnag a ddaw i Gaernarfon, mae penderfyniad heddiw yn golygu bydd yr ail gyfnod yn un cyffrous i’r Cofis wrth i bêl-droed y chwech uchaf ddod ’nôl unwaith eto i’r Oval.