Yn dilyn sefydlu Porthi Pawb yn ystod cyfnod Covid lle’r oedd gwirfoddolwyr yn paratoi prydau i bobl yr ardal o gegin Ysgol Syr Hugh mae cynlluniau Porthi Dre yn mynd o nerth i nerth.
Mae’r fenter yn chwilio am gogydd, rhywun ella fas di bod yn coginio mewn ysgol, i ddarparu prydau bwyd cynnes a maethlon. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Tref Caernarfon mae gweledigaeth wych Porthi Dre, Hwb Cymunedol, yn glir – rhoi bwyd cynnes a chyfle i gwrdd ag eraill mewn cyfnod argyfwng costau byw a lle gall pobl fod yn teimlo yn unig.
Dywedodd Cemlyn Williams o Porthi Pawb fod eu neges yn syml ’dim ots be di sefyllfa neb, nawn ni ddim troi pobl i ffwrdd. Da ni yn awyddus i allu mynd i nôl pobl dwad a nhw at ei gilydd am bryd cynnes ac yna lifft adra yn ol yn saff, mi fydd hynny yn ystod y dydd neu gyda’r nos ella’.
Mae ganddynt gegin fasnachol all baratoi 150 o brydau bwyd mewn diwrnod a fydd y gegin yn agor o fewn ychydig wythnosau, maen nhw yn chwilio am berson all brynu a pharatoi bwyd ac o ansawdd.
Mae Porthi Pawb yn rhan fentrerau Croeso Cynnes ac yn bwriadu agor eu drysau yn y flwyddyn newydd.
Cewch fwy o fanylion am y swydd yma