Claire yn Codi Arian i Ambiwlans Awyr Cymru ?

Claire yn Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er Cof am ei Thad ??‍♀

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Mae Claire Coles – Williams o Talsarn ger Nantlle ond yn wreiddiol o Gaernarfon yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd penwythnos yma.

Mae Claire wedi penderfynu codi arian i’r Ambiwlans Awyr Cymru er cof am ei thad a farwodd o ganlyniad trawiad ar y galon ychydig wythnosau yn ôl.

Mae’r elusen hon yn agos i galonau y teulu oherwydd, o ganlyniad eu dewis i’w hedfan i Ysbyty Glan Clwyd, ac yna ei wneud yn barod i theatr ar y ffordd, cafodd y teulu bythefnos ychwanegol, gwerthfawr gyda eu tad, ac roedd y teulu yn hynod ddiolchgar am hyn.

Dyma yw’n rheswm am gefnogi’r elusen.

Roedd Walter Coles yn gymeriad hoffus yn y gymuned leol ac yn ofalwr gweithgar i Ysgol Syr Hugh Owen yn Gaernarfon am flynyddoedd

Mae Ysgol Syr Hugh Owen wedi codi dros fil o bunnoedd tuag at yr achos, a mae yna raffl wedi ei drefnu gyda gobaith o gynnal mwy.

Mi fydd hyn, ynghyd a rhoddion drwy’r rhyngrwyd “Facebook” yn creu rhodd swmpus i’r elusen.

Linc i Brynu Raffl – Raffl Claire Coles – Williams

Just Giving – Claire Coles – Williams