Cofis yn cyrraedd Ffeinal Cwpan yn y Principality ?

Bydd Tîm Rygbi Merched Caernarfon yn teithio i Stadiwm Principality ar gyfer Ffeinal Cwpan Gogledd Cymru dydd Sul?

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes
9E2A10A6-1901-4CEA-A46A
1BBFACD3-657F-4784-B288

Bydd Tîm Rygbi Merched Caernarfon yn rhan o ddathliad rygbi cymunedol Rygbi Cymru a bydd y tîm yn brwydro Merched Cobra yn Ffeinal Cwpan Gogledd Cymru yn Stadiwm Principality dydd Sul yma!

Mae’r digwyddiad ysblennydd, ac un o uchafbwyntiau’r calendr rygbi cymunedol, y Road To Principality gyda chefnogaeth partneriaid swyddogol Papa John’s, yn dychwelyd i Stadiwm Principality ar ôl seibiant o ddwy flynedd.

Bydd dros 2,500 o chwaraewyr yn cael y profiad o’u bywydau, wrth iddyn nhw gael cystadlu o dan oleuadau llachar cartref rygbi Cymru.

Bydd mwy na 60 o ysgolion, colegau, clybiau a thimau amrywiol o bob rhan o Gymru yn cymryd rhan yn yr ŵyl dros 10 diwrnod o hyd, sy’n dathlu popeth sydd gan rygbi i’w gynnig.

AMSERLEN ?

Sul 1af Mai

13:00

Diwrnod Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y Merched Hŷn – Cwpan Gogledd Cymru 

*Merched Caernarfon vs Merched Cobra*

Rownd Derfynol Plât De Cymru 15:15
Cwpan De Cymru – 17:35

CEFNOGI / TICEDI ?

Bydd Stadiwm y Principality ar agor i’r cyhoedd yn gyffredinol a rydym yn annog cefnogwyr i ddod i fwynhau’r awyrgylch gwych yn ystod y Ffordd i Principality

Pris £10 y tocyn Oedolyn

£5 i rai dan 17 oed

Mae tocynnau ar gael ar-lein yn wru.wales/tickets neu ar gael i’w prynu ar y diwrnod o Swyddfa Docynnau URC ar Westgate Street.

BWS CEFNOGWYR ?

Os byddwch awydd dwad i gefnogi y merched ar y bws cefnogwyr mae ambell i sedd ar gael

Cysylltwch gyda Lowri Wynn am fwy o fanylion
lowri_wynn@outlook.com

GWYLIO YN FYW ?

Am y tro cyntaf erioed, bydd cefnogwyr Rygbi Cymru hefyd yn gallu tiwnio i mewn yn fyw trwy sianeli You Tube a Facebook URC a dal y saith niwrnod o gystadlaethau cyffrous.

I wylio trwy lif byw, gall cefnogwyr ymweld â:
www.youtube.com/c/WRUOfficial / www.facebook.com/WelshR

Twitter @rygbicfongenod

Instagram #ClwbRygbiCaernarfon

Facebook – TîmMerchedRygbiCaernarfon

POB LWC FERCHED ???