Coflechi Caernarfon

Cymdeithas Ddinesig Caernarfon yn lansio prosiect gyffrous yn y Dref!

Hannah Hughes
gan Hannah Hughes

Mae Cymdeithas Ddinesig Caernarfon newydd orffen prosiect cyffrous iawn i osod tros 40 o blaciau llechen o gwmpas tref Caernarfon, i nodi adeiladau o bwys, neu gartrefi unigolion nodedig yn y dref.

Yn ogystal, mae’r Gymdeithas wedi gosod Codau QR i roi llawer mwy o wybodaeth am yr adeiladau a’r unigolion,  a fydd ar gael ar eich ffonau symudol.

Mae map hefyd wedi ei gyhoeddi i’ch arwain o amgylch y placiau, ac i ddarparu rhagor o wybodaeth am y Dref i drigolion ac i ymwelwyr.

Gweler y map a rhai o’r placiau yn y lluniau.

https://www.cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru/