Mae’n Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched, a pha well diwrnod i ddathlu ein merched lleol?
Mae Etholiadau Cyngor Gwynedd ar y gorwel, ac mae’r Aelod o’r Senedd lleol wedi nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod drwy groesawu’n ffurfiol 7 o ferched lleol fydd yn sefyll am y tro cyntaf fis Mai.
Ymhlith y 7 mae ymgeiswyr ward Hendre, Caernarfon, Anna Jane Evans, ac ymgeisydd ward Cadnant, Caernarfon, Dawn Lynne Jones.
Yn ôl Siân Gwenllian AS:
“Yn Etholiadau Cyngor Gwynedd yn 2017, roedd cynnydd o 18% yn y ganran o ddynion 45-65 oed a etholwyd.
“Ledled Cymru, dim ond 29% o gynghorwyr sy’n fenywod.
“Ond, wrth i ni ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, mae lle i fod yn bositif.
“Fe redon ni ymgyrch bwrpasol wedi’i thargedu’n lleol, gyda’r gobaith o ethol mwy o ferched ym mis Mai, ac mae’n bleser gen i groesawu 7 o ymgeiswyr benywaidd deinamig mewn seddi allweddol.
“Maen nhw’n ferched sy’n perthyn i’w bröydd lleol, ac yn weithgar yn eu hardaloedd.”
Pwy ydi Anna Jane Evans?
- Cyn-weithiwr cymunedol ac ieuenctid yn Eglwys Noddfa.
- Sefydlydd Cwmni Cofis Bach.
- Gwirfoddolwr efo Cofis Curo Corona, Porthi Pawb, ac O Law i Law.
Pwy ydi Dawn Lynne Jones?
- Gwirfoddoli efo Cofis Curo Corona, Porthi Pawb, O Law i Law, a Charnifal Caernarfon.
- Is-Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Maesincla.
- Cynghorydd Tref ers 2017.